Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn byw bywydau diogel, cadarnhaol a chynhyrchiol. Fodd bynnag, mae lleiafrif bach o blant a phobl ifanc ynghlwm ag ymddygiad troseddu tân gwrthgymdeithasol sy’n eu peryglu hwy a’u cymuned. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eisoes wedi cyflawni llawer drwy ddarparu cynlluniau ymyrraeth ieuenctid gan gynyddu hyder a hunan-barch ymysg pobl ifanc, gwella eu sgiliau rhyngbersonol a galwedigaethol a rhoi ymdeimlad o gyfeiriad a hunan barch iddynt. Mae’r bobl ifanc yn datblygu mwy o ysgogiad a dod yn fwy cadarnhaol am eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.
Mae amddifadedd a pherygl tanau damweiniol a bwriadol yn cyd-fynd. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol megis y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, Unedau Atgyfeirio Disgyblion, Carchar Parc a Rhaglenni Cynhwysiant Pobl Ifanc tuag at y nodau canlynol;
I gael rhagor o wybodaeth am ein holl Raglenni Ieuenctid dilynwch y dolenni isod.
Tîm Rap Llosgi Bwriadol
Prosiect Phoenix
Cynllun Ymyrraeth Cynnau Tanau
Ymladdwyr Tân Ifanc
Manylion Cyswllt
E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk
Ffôn: 01443 232000