Prosiect Phoenix 

phoenix_ani_gif

Beth yw’r Prosiect Phoenix?

Menter Tân ac Achub wedi’i hanelu at bobl ifanc rhwng 11 a 17 mlwydd oed yw Prosiect Phoenix. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â phroblemau sydd gan bobl ifanc yn amrywio o hunan barch isel a diffyg hyder i ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu broblemau’n ymwneud â thân megis cynnau tanau’n fwriadol a galwadau ffug.

Mae’n herio agweddau presennol a hyrwyddo pobl ifanc i feddwl yn annibynnol drwy ddefnyddio gweithgareddau gwasanaeth tân i ddatblygu nodweddion personol megis gweithio mewn tîm, archwilio cyfyngiadau corfforol a meddyliol ac addysgu pobl ifanc ynghylch rôl y gwasanaeth tân ac achub.

At bwy y mae wedi’i anelu?

Mae’r cwrs wedi’i anelu at bobl ifanc sydd â phroblemau’n ymwneud â thân megis galwadau ffug a llosgi bwriadol, neu ar gyfer y rhai sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu’n droseddol.

Beth yw amcanion y cwrs?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwy. Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi datblygu nifer o wahanol ffyrdd o ymgysylltu â’n cymunedau.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r ffyrdd hynny ac am addysgu a rhoi gwybodaeth i bobl ifanc ynghylch y peryglon sy’n gysylltiedig â thân a’r materion ehangach sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol.

Drwy archwilio a herio eu terfynau personol eu hunain drwy’r gweithgareddau maent yn gwneud drwy’r wythnos, mae’r bobl ifanc yn dysgu sut i wella eu sgiliau cymdeithasol, meddwl yn fwy annibynnol a hefyd feddwl am eraill o'u hamgylch. Mae’r broses hon yn aml yn arddangos rhinweddau cudd nad ydynt, o bosib, wedi cael siawns i’w dangos eto. Mae’n gallu datgelu arweinwyr hyderus, unigolion ystyriol, meddyliau siarp a meddylwyr croyw.

Ymladdwyr Tân yn Esiamplau Da

Mae’n cael ei dderbyn yn gyffredinol fod Ymladdwyr Tân yn esiamplau da oherwydd natur y swydd maent yn ei wneud. Yn gyffredinol, mae pobl ifanc yn gweld rôl Ymladdwyr Tân yn ddiddorol ac maent yn ymateb yn well ac yn cydweithio’n well wrth weithio gyda phobl o’r fath, gall hefyd arwain at eu hefelychu, neu o leiaf rhai o’u rhinweddau.

Gwneud cymunedau yn fwy diogel

Drwy dreulio amser yng nghwmni ymladdwyr tân, mae’r bobl ifanc sy’n mynychu’r cwrs yn dysgu am ddiogelwch tân yn ogystal â dysgu sgiliau diogelwch sy’n ddefnyddiol yn rhan o fywyd o ddydd i ddydd fel cymorth cyntaf a chodi a chario. Maent hefyd yn gweld canlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol fel llosgi bwriadol, ymosodiadau ar ymladdwyr tân, galwadau ffug a’r effeithiau eang mae’r digwyddiadau hyn yn eu cael ar y gymuned.

Canlyniadau

Gellir rhannu’r manteision i bobl ifanc sy’n mynychu yn dri maes

Y Gwasanaeth Tân ac Achub:

  • Lleihad o ran tanau bwriadol a llosgi bwriadol
  • Lleihad o ran marwolaethau ac anafiadau oherwydd tân
  • Lleihad o ran galwadau ffug
  • Lleihad o ran ymosodiadau ar ymladdwyr tân
  • Cryfhau partneriaethau â sefydliadau eraill
  • Cynnydd o ran ymwybyddiaeth diogelwch tân

I’r gymuned:

  • Llai o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Lleihad o ran troseddau
  • Cymunedau mwy diogel a chadarn

I’r person ifanc:

  • Cynnydd o ran hyder a hunan-barch
  • Gwell sgiliau rhyngbersonol
  • Unigolion mwy diogel
  • Sgiliau galwedigaethol
  • Cynnydd o ran cyfeiriad a hunan-barch

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

           Gwybodaeth Berthnasol

 Lawrlwytho pecyn y prosiect Phoenix
 Lawrlwytho Ffurflen Atgyfeirio
 Polisi Cyfle Cyfartal
 Proffil Cymeriad y Person Ifanc
 Caniatâd Rhieni a Gwybodaeth Feddygol

"Stori newyddion da" Cyngor Caerffili


Adborth

Adborth oddi wrth rieni, disgyblion a staff

Oriel

Oriel

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 23/1/2012
SWFRS