Mae Lee Peters wedi gweithio i’r gwasanaeth ers 16 mlynedd, yn gwasanaethu yng ngorsafoedd tân Cefn Fforest a’r Maendy; mae wedi mwynhau ymladd tanau ar y rheng flaen erioed. Mae wedi bod yn aelod o’r tîm ymyrraeth cynnau tanau ers 2009 wedi iddo ennill BTEC mewn Sgiliau Ymyrraeth Cynnau Tanau. Mae’n gwerthfawrogi bod yn berson sy’n gosod esiampl dda a chadarnhaol ac yn mwynhau cyfathrebu â’r bobl ifanc. Mae hefyd yn gweithio i Brosiect Phoenix y gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc sydd wrth risg troseddu. Yn ogystal â chymwysterau ymladd tân mae ganddo gymwysterau mewn gwaith ieuenctid - hyd at lefel 3 – sydd wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer cyfathrebu â phobl ifanc. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys clwb pêl-droed Aston Villa a chadw’n heini. Ers gweithio ar brosiectau ieuenctid ar gyfer Diogelwch Cymunedol mae Lee wedi derbyn hyfforddiant pellach ar ymwybyddiaeth trais domestig ac ymwybyddiaeth camddefnyddio sylweddau.
Mae Jayne Smith wedi gweithio i GTADC er 2002 yn y gegin yn y pencadlys. Roedd ar Jayne awydd rhoi cynnig ar rywbeth newydd a fyddai’n defnyddio’i sgiliau a’i gwybodaeth mewn maes roedd hi wedi’i gael y tu allan i gegin y Gwasanaeth Tân, felly gwnaeth hi gais am Ymarferydd FIS a llwyddo. Ers hynny, mae hi wedi cyflawni ei BTEC mewn Ymyraethau y Rhai sy’n Cynnau Tanau ac mae’n aelod tîm arall sydd wedi’i hyfforddi i hwyluso Arferion Cyfiawnder Adferiadol. Mae hi’n mwynhau gweithio yng nghymunedau De Cymru lle dechreuodd ei gyrfa mewn datblygu gwasanaethau i bobl ifanc wrth fagu ei theulu mawr ei hun (6 phlentyn) ar ystâd gyngor fawr yng Nghaerdydd. Mae Jayne hefyd yn gymwysedig fel cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch i’r Gwasanaeth.
Mae Ashley Collins wedi gweithio i GTADC er 1997, ym Margoed, Merthyr ac Abertyleri. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Gwylfa yn yr Adran Diogelwch Cymunedol (Diogelwch Cartref). Hefyd, gweithiodd i Glybiau Plant Cymru yn brif weithiwr cefnogol Blaenau Gwent. Roedd hyn yn cynnwys helpu’r Clybiau Wedi’r Ysgol gyda materion cyllid, sefydlu clybiau a threfnu gweithgareddau i’r plant. Mae wedi gweithio ar brosiectau cymunedol amrywiol yng nghymunedau dan anfantais ardal ein Gwasanaeth, gan gynnwys rhai ar Ystad y Gurnos. Roedd hyn yn cynnwys cael plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol a’u mentora gyda sgiliau bywyd. Wedi byw yno am 18 mlynedd, mae’n teimlo ei fod yn gallu uniaethu â llawer o’r problemau mae’r plant yn eu hwynebu, a oedd yn helpu i sefydlu parch o’r ddwy ochr. Mae’n gymwysedig fel Peiriannydd Difa Bomiau, gyda 6 blynedd o wasanaeth ac mae wedi gweithio i Lywodraeth America yn Tennessee a Kentucky yn rhan o Dîm Ffrwydron.
Mae Keir Ennis wedi gweithio i GTADC er 2005 yn ymladdwr tân yng Ngorsaf Dân Bargoed. Cyn ymuno â’r Gwasanaeth Tân, roedd Keir yn gweithio yn Weithiwr Cynllun Chwarae gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent lle roedd yn gweithio ar sail un i un gyda phobl ifanc ag anableddau meddyliol a chorfforol amrywiol. Mae wedi bod yn hyfforddwr Ymladdwyr Tân Ifanc er 2006 yng ngorsaf dân Merthyr Tudful. Mae hefyd yn gweithio’n rhan-amser yn Weithiwr Ieuenctid yng Nghanolfan Ieuenctid y Fochriw, lle mae wedi ennill NVQ mewn gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Mae hefyd yn gweithio i YMCA Bargoed, yn dymhorol, ar brosiect o’r enw ‘Eich Ffordd Chi’ sy’n cynnwys trefnu gweithgareddau i blant a phobl ifanc y mae eu rhieni wedi bod yn gysylltiedig â cham-drin yn y cartref a chamddefnyddio sylweddau. Ers ymuno â Chynllun Ymyrraeth y Rhai sy’n Cynnau Tanau, mae wedi ennill BTEC mewn Ymyrraeth y Rhai sy’n Cynnau Tanau.
Mae Sue Lawrence wedi gweithio i GTADC yn Gynorthwy-ydd Cyfrifeg yn yr Adran Gyllid er Chwefror 03. Yn fwy trwy ddamwain na dewis, symudodd i mewn i waith amser llawn mewn cyllid yn ôl ym 1979 pan oedd yn gweithio i Baxter Healthcare, gyda swyddi tebyg yn gweithio i Gynghorau Blackburn, Caerliwelydd a Swydd Warwig cyn GTADC. Oherwydd ei diddordeb brwd mewn gweithgareddau awyr agored, derbyniodd rôl wirfoddol yn hyfforddwr teithiau antur i bobl ifanc yn gweithio am eu gwobrau Dug Caeredin, gan arwain at hyfforddi a chymhwyso yn weithiwr ieuenctid a chymunedol rhan-amser yn Swydd Gaerhirfryn.
Felly, pan ddaeth swydd Ymarferydd FIS ar gael, roedd yn gyfle da i ddefnyddio’r profiad a enillwyd wrth weithio gyda phobl ifanc. Ers hynny, mae hi wedi cwblhau’r BTEC mewn Ymyrraeth y Rhai sy’n Cynnau Tanau ac mae’n awyddus i gynorthwyo pobl ifanc i weithio trwy eu hanawsterau a dechrau cymryd lle mwy gwerthfawr mewn cymdeithas.
Mae Mark Stevens wedi bod yn ymladdwr tân gweithredol er 1999 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yng Ngorsaf Malpas. Ar ôl ymuno â GTADC, daeth Mark yn ymwybodol ar unwaith o ba mor dda mae’r ymladdwyr tân yn cael eu derbyn gan y cyhoedd a’i fod mewn safle delfrydol i roi help a chyngor i unigolion, yn arbennig pobl ifanc.
Gwelodd Mark ymuno â’r Tîm FIS yn gyfle i ddefnyddio rhai o’r sgiliau a gafodd cyn ymuno â’r gwasanaeth a thynnu ar ei brofiad o fynd i’r afael ag ymddygiad heriol. Mae hefyd wedi’i hyfforddi mewn Arferion Cyfiawnder Adferiadol.
Laura Thomas yw Rheolwr y Cynllun. Mae wedi bod gyda GTADC yn yr Adran Diogelwch Cymunedol ers bron i 5 mlynedd. Cyn hynny, roedd yn gweithio yn y maes Cyfiawnder Ieuenctid am 4 blynedd yn Weithiwr Cyfiawnder Ieuenctid a Gweithiwr Cefnogol i bobl sy’n gadael y carchar ac yn mynd yn ddigartref. Cyn hynny, roedd yn dysgu Saesneg i blant dramor. Mae Laura’n un o’r aelodau tîm sydd wedi’i hyfforddi mewn arferion Cyfiawnder Adferiadol ac mae ganddi’r BTEC mewn Ymyrraeth y Rhai sy’n Cynnau Tanau. Mae ganddi BSc Anrh mewn Seicoleg a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Cwnsela. Mae’n hyrwyddwr brwdfrydig o hawl plant a phobl ifanc i fywyd diogel, hapus a defnyddiol.