Ystadegau ac Adborth! 

Niferoedd a Gyfeiriwyd i’r Cynllun Ebrill 09 – 10

 

Awdurdod Lleol

Ymweliad â’r Cartref

SAFE

FIRESAFE

Caerdydd

5

9

0

Casenewydd

7

4

0

Pen-y-bont ar Ogwr

1

1

0

Bro Morgannwg

1

5

1

Caerphilly

5

2

0

Blaenau Gwent

4

3

0

Rhondda Cynon Taf

7

1

0

Sir Fynwy

1

2

4

Torfaen

1

0

0

Merthyr

1

2

0

Cyfansymiau

33

29

5

Cyfanswm a gyfeiriwyd i’r Cynllun

69

 

 

Felly, sut gwnaethon ni?

Rydyn ni’n monitro ein cyfeiriadau wedi ymyrraeth ar ôl 3 mis gyda’r Ymweliad â’r Cartref, ar ôl 3 yna 6 mis gyda rhaglen Safe ac ar ôl 3, 6 a 12 mis gyda rhaglen Firesafe.

Rydyn ni’n mesur pa mor effeithiol fuon ni yn ôl a yw’r plentyn neu’r person ifanc wedi parhau â’r ymddygiad cynnau tanau ai peidio.  Gyda rhaglen Firesafe, rydyn ni hefyd yn mesur newid agwedd trwy ddefnyddio teclyn asesu wedi’i ddilysu.

Allan o’r 33 o gartrefi a ymwelwyd â hwy dim ond 1 wnaeth barhau i arbrofi gyda thanwyr a thân (cyfradd llwyddiant 97%).

3 heb eu cwblhau (2 wedi symud o’r ardal, 1 ddim yn cydweithio)

O’r 5 cyfeiriad Firesafe:

5 wedi’u cwblhau ac yn cael eu monitro ar hyn o bryd.

Adborth gan bobl ifanc

 “Bellach, rwy’n parchu gwaith y gwasanaeth tân” 15 mlwydd oed, Sir Fynwy.

 ““Fi sy’n gyfrifol am ddiogelwch yn y cartref ar gyfer fy nheulu” 9 mlwydd oed, Caerdydd.

 “Roedd yn hwyl, yn ddiddorol, a dysgais i beidio â chwarae gyda thân am ei fod yn gallu eich anafu chi a phobl eraill” 12 mlwydd oed, Casnewydd.

 “Rwy’n deall mwy am anafu pobl eraill a hefyd o ran aros a meddwl cyn gwneud pethau” 8 mlwydd oed, Merthyr.

Adborth asiantaeth

“Treuliodd y person oedd yn cyflwyno’r rhaglen lawer o amser gyda’r person ifanc, byddwn yn argymell y gwasanaeth hwn yn bendant” SAFE

 “Llawn gwybodaeth a hyblyg iawn oedd yn ddefnyddiol i’r person ifanc” SAFE

 “Gwnaeth y person oedd yn cyflwyno’r rhaglen ei haddasu i fodloni anghenion y person ifanc” FIRESAFE

 “Amlygu peryglon tân ac yn esbonio’n dda sut i ddiogelu’r cartref gymaint â phosib.” HOME VISIT

 “Rhaglen dda iawn gydag adborth cadarnhaol oddi wrth y person ifanc” SAFE

 “Byddwn yn bendant yn rhoi manylion y gwasanaeth i weithwyr proffesiynol eraill ac yn ei ddefnyddio eto petai angen” FIRESAFE

Gydraeddoleb Ac Amrywiaeth

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 14/9/2011
SWFRS