Hyd yn hyn, mae’r rhan helaeth o’r ymchwil ar ymddygiad cynnau tanau wedi dod o UDA. Yno, mae cytundeb bod rhaid archwilio ffactorau unigol ac amgylcheddol ar yr un pryd. Pennir nodweddion unigol gan brofiadau cymdeithasol a gwybyddol, ac maent yn cynnwys gwerthoedd, hunanddisgwyliadau, credoau a thueddiadau tuag at eich hunan ac eraill1. Mae amgylchiadau amgylcheddol yn cynnwys cefnogi, rheoli, modelau a disgwyliadau pobl eraill. Mae archwilio’r ffactorau hyn, a’u perthynas â chynnau tanau, yn gallu helpu gweithwyr yn y maes i ddeall ysgogiadau a lefelau risg, a fydd yn cynorthwyo mewn atal a thrin y rhai sy’n cynnau tanau.
Cafwyd bod gan gynnau tanau gysylltiad agos ag ymddygiad gwrthgymdeithasol2. Mae ymchwil yn dangos bod y rhai sy’n cynnau tanau’n tueddu i ddangos problemau ymddygiad, fel anfudd-dod, natur ymosodol a byrbwylltra3. Cafodd ymchwil arall fod cyneuwyr tanau’n teimlo dicter ac yn dal dig am i’w rhieni eu gwrthod, gyda’r fath deimladau’n cael eu mynegi’n helaeth trwy ddefnyddio tân4. Gallai cynnau tanau ddigwydd ar ddiwedd sbectrwm symptomeg wrthgymdeithasol, sy’n datblygu o ymddygiadau problemus agored, mwy mynych, fel anfudd-dod, i ymddygiadau problemus cudd, llai mynych, fel dweud celwyddau, dwyn a fandaliaeth5. Mae pobl ifanc yn eu harddegau sy’n cynnau tanau yn dangos lefelau uwch o elyniaeth ac ymosodiad, o gymharu â’r rhai sy’n cynnau tanau ar oedran arall6.
Mae’r ysgogiad tros gynnau tanau’n gallu amrywio o ran pa mor ddifrifol ydynt a’r canlyniad a ddymunir, o chwilfrydedd, diflastod neu geisio sylw, i fwynhad rhywiol, dial, teimladau o rym a rheolaeth, neu ddinistrio. Mae rhesymau eraill y tu ôl i losgi bwriadol yn cynnwys cuddio tystiolaeth, rhoi cerbydau ar dân, twyll yswiriant, dibenion gwleidyddol neu ailgartrefu.
Mae dadansoddi’r holl ymchwil gyfredol yn nodi saith categori o’r rhai sy’n cynnau tanau:
Yr un sy’n cynnau tân o ran chwilfrydedd
Fel arfer, plant ifanc (3-6 oed) yw’r rhai sy’n cynnau tân o ran chwilfrydedd, sy’n cynnau tanau fel arbrawf. Pan ofynnwyd iddynt pam ddechreuon nhw dân, maen nhw’n tueddu i ateb iddyn nhw ei wneud o awydd i wylio fflam. Gorfywiogrwydd neu anhwylder diffyg canolbwyntio yw’r diagnosis plentyndod cynnar traddodiadol ar gyfer plant 7 oed ac iau sy’n cynnau tân. Mae’r math hwn o gyn-heuwr tanau’n aml yn difaru ar ôl y tân7 ac yn tueddu i beidio â deall canlyniadau ei ymddygiad.
Ni fydd gan yr un sy’n cynnau tân o ran chwilfrydedd unrhyw ddiffygion gwybyddol, gan nad yw ei alluoedd gwybyddol wedi datblygu’n llwyr am eu bod yn dal yn ifanc ac yn anymwybodol o’r peryglon. Os nad yw’r ymddygiad hwn yn cael ymateb, mae perygl y bydd y plentyn yn dod i weld ei ymddygiad yn fath derbyniol o chwarae, neu’n ffordd o herio awdurdod rhieni.
Yr un sy’n cynnau tân ar ddamwain
Fel arfer, plant tan 11 oed yw’r rhai sy’n cynnau tanau damweiniol, er y gallai’r categori hwn gynnwys pobl yn eu harddegau hefyd, sy’n arbrofi â chynnau tanau, neu’r rhai sy’n archwilio’r hyn mae tân yn gallu ei wneud. Gallai diffyg gofal ar ran oedolion ifanc neu oedolion eraill ddisgyn i’r grŵp hwn. Ni fwriedir i gynnau tanau damweiniol achosi llanastr a, chan mwyaf, nid yw’n ganlyniad amgylchedd cartref lle mae esgeulustod neu gamdriniaeth8.
Yr un sy’n cynnau tân i ‘alw am help’
Yn aml, mae’r un sy’n cynnau tân i ‘alw am help’ yn cael ei gynnwys yn niagnosis anhwylder gorfywiogrwydd diffyg canolbwyntio, iselder, anhwylder herio gwrthryfelgar, neu anhwylder straen wedi trawma. Mae’r grŵp hwn wedi’i ddiffinio fel y rhai - plant neu lanciau fel arfer - sydd, naill ai’n ymwybodol neu’n isymwybodol, am ddwyn sylw at drafferth fewnol (iselder) neu at drafferth ryngbersonol (camdriniaeth gartref, bod yn dyst i drais, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol gan riant neu esgeulusdod).
Nid ystyrir bod y grŵp hwn am achosi niwed neu ddifrod. Mae asesiadau’n dangos bod y rhan fwyaf o gyneuwyr tanau ‘galw am help’ wedi’u cam-drin yn gorfforol, yn emosiynol neu’n rhywiol ac yn defnyddio tân i ryddhau dicter.
Is-grŵp o gyneuwyr tanau ‘galw am help’ yw’r rhai sy’n cynnau tanau er mwyn cael eu gweld yn ddarpar arwyr, yn ceisio sylw cymheiriaid neu’r gymuned er mwyn darganfod neu helpu i ddiffodd y tanau maen nhw wedi’u dechrau.
Cynheuwr tanau tramgwyddus
Mae’r math tramgwyddus fel arfer yn cynnwys pobl ifanc rhwng 11 a 17 oed. Gan amlaf, mae’r cynnau tân yn rhan o gasgliad mwy o ymosodedd ac anhwylderau ymddwyn eraill. Hefyd, efallai y byddan nhw’n ymwneud â fandaliaeth a throseddau ymosodol eraill, rhoi cerbydau wedi’u gadael neu wedi eu dwyn ar dân yw’r mwyaf cyffredin. Does gan y math hwn o gyn-heuwr tanau fawr o empathi ag eraill a bydd ganddo ymwybod sydd heb ddatblygu’n dda.
Mae ffactorau amgylcheddol sy’n creu cynheuwr tanau tramgwyddus yn cynnwys: bywyd teulu cwbl ddi-drefn; rheolaeth lem, anwadal, anghyson gan y rhieni; profiad o ofal/y ddalfa; cysylltiadau gwael â’r teulu; cymheiriaid neu deulu sydd o blaid troseddu; cael profiad o drais; tangyflawni; gwaharddiad o’r ysgol; camddefnyddio sylweddau; a diffyg cyfleoedd cadarnhaol. Bydd y ffactorau hyn, wedi’u cyfuno â diffygion gwybyddol, megis byrbwylltra, sgiliau gwael o ran datrys problemau, diffyg empathi, diffygion o ran sgiliau cymdeithasol ac anallu i feddwl am y canlyniadau, yn gwaethygu’r ymddygiad problemus. Prin y bydd cyfeillgarwch arwyddocaol gan y cyneuwyr tanau yn y grŵp hwn, dim ond grŵp o gymheiriaid y maen nhw eisiau creu argraff arnyn nhw.
Yr un sy’n cynnau tanau ac sy’n drwblus tros ben ynddo’i hun
Mae’r cynheuwr tanau sy’n drwblus tros ben ynddo’i hun yn cynnwys pobl ifanc ac oedolion sy’n baranoiaidd neu’n seicotig, ac y gallai’r obsesiwn â thân fod yn ffactor yn natblygiad anhwylder meddwl. Bydd y bobl hyn yn cael atgyfnerthiad synhwyraidd gwirioneddol oddi wrth y teimladau mae’r tân yn eu rhoi iddyn nhw, felly byddan nhw’n cynnau tanau drosodd a thro i fodloni eu dymuniad i brofi’r teimladau hynny.
Yn aml mae hanes y cynheuwr tanau sydd wedi’i gynhyrfu’n ddifrifol yn awgrymu obsesiwn cynnar â thân, trafferth gyda’r rhieni ac esgeulustod cymdeithasol. Mae cyneuwyr tanau wedi’u cynhyrfu’n ddifrifol yn cael eu diagnosio trwy amrywiaeth o batholegau unigol, megis anhwylder straen wedi trawma, anhwylder gorbryder, anhwylder ymddwyn a sgitsoffrenia9,10. Is-grŵp o’r math hwn o gynheuwr tanau yw pyromaniaid, sydd â salwch meddyliol ac fel arfer yn cael atgyfnerthiad synhwyraidd rhywiol gan y tanau maen nhw’n eu cynnau. Hefyd, gall rhai cyneuwyr tanau difrifol hunan-niweidio, gan ddefnyddio tân i’w niweidio neu i’w lladd eu hunain11.
Cynheuwr tanau â nam gwybyddol
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys y rhai sydd â nam meddyliol. Mae ganddynt anableddau dysgu wedi’u hennyn gan drafferthion ymennydd organig, gan syndrom alcohol y ffetws, neu gan gyffuriau a gymerwyd gan y fam yn ystod beichiogrwydd. Mae’r mathau hyn o gyneuwyr tanau yn tueddu i osgoi niwed bwriadol, ond yn methu barnu’r canlyniadau yn dderbyniol.
O gymharu â mathau eraill o gyneuwyr tanau, canfu astudiaeth o losgwyr bwriadol sydd â nam meddyliol12 nad oedd ganddyn nhw hanes o wyredigaeth, troseddu cyfreithiol na ffurfiau eraill ar dorri cyfraith sy’n gysylltiedig â fandaliaeth. Fodd bynnag, canfu’r ymchwil fod cyneuwyr tanau sydd wedi’u herio’n feddyliol â chyfradd uwch o atgwympo na chyneuwyr tanau nad ydyn nhw wedi’u herio’n feddyliol.
Cynheuwr tanau cymdeithasol-ddiwylliannol
Fel arfer, mae’r rhai cymdeithasol-ddiwylliannol hynny sy’n cynnau tanau ymysg aflonyddwch sifil ac yn cael eu ffyrnigo neu eu denu gan weithgarwch pobl eraill ac yn cynnau tanau i alw sylw i gyfiawnder eu hachos. Yn bennaf, oedolion sy’n gwneud hyn yn weithgarwch llosgi bwriadol er elw (twyll yswiriant, ailgartrefu).
Mae amrywiaeth o nodweddion, ymddygiad a gwybyddiaeth gwahanol yn gallu diffinio mathau gwahanol o gyneuwyr tanau a bydd eu hymddygiad yn gwahaniaethu o ganlyniad i amgylchiadau unigol ac amgylcheddol. Prin fu’r ymchwil i faterion rhyw; gwrywod yw’r rhan fwyaf o gyneuwyr tanau. Dyma faes y mae angen rhagor o astudio arno – a yw’r hyn sy’n ysgogi merched i gynnau tanau’n wahanol i ysgogiadau gwrywod?
Wrth weithio gyda chyneuwyr tanau i liniaru ar yr ymddygiad, mae angen i ni fod yn ymwybodol o ba fath o gynheuwr tanau ydyn nhw. Os yw person ifanc yn cynnau tanau ar ei ben ei hun neu’n ymddangos yn arweinydd mewn grŵp o bobl sy’n gysylltiedig â throseddau sy’n gysylltiedig â thân (nid tanau cerbyd), mae angen sefydlu ai dicter, rhwystredigaeth, neu ddial yw’r ysgogiad, yn hytrach na cheisio gwefr oherwydd diflastod. Bydd defnyddio camau cosbi eithafol gyda chyn-heuwr tanau dig yn arwain at fwy o gynnau tanau.
Ar wahân i faterion iechyd meddwl cyn-heuwr tanau difrifol, mae diffyg cyffredinol o alluoedd gwybyddol penodol sy’n arwain pobl, pobl ifanc yn bennaf, i gynnau tanau. Trwy weithio gyda’r bobl ifanc hyn, gall y gwasanaeth tân ddarparu cyfuniad o addysg ynghylch tân ac ymyrraeth ymddygiadol wybyddol - gan gynnwys datblygu sgiliau datrys problemau, sgiliau meddwl yn wahanol, y gallu i empatheiddio, meddwl am y canlyniadau a byrbwylltra - i helpu i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd rhaglen ymddygiadol wybyddol yn ceisio gwella pob un o’r sgiliau meddwl penodol hyn trwy ddefnyddio amrywiaeth o ymarferion a gêmau wedi’u dylunio’n ofalus.
Cyfeiriadau