Mwy am Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) 

Mae CBT yn ffurf ar driniaeth seicolegol sy’n cael ei hymarfer yn draddodiadol gan seicolegwyr clinigol, seiciatryddion, nyrsys, ymarferwyr iechyd meddwl a chwnselwyr.  Fodd bynnag, mae manteision CBT yn cael eu cydnabod fwyfwy gan sectorau eraill; mae ei lwyddiant, yn arbennig wrth fynd i’r afael â throseddwyr, wedi gweld gweithwyr cymdeithasol a swyddogion yng ngwasanaethau’r heddlu, profiannaeth a charchar yn mabwysiadu technegau CBT.

Mae cymhwyso dulliau ymddygiadol, gwybyddol i leihau troseddu yn dechrau gyda’r rhagosodiad nad yw unigolyn yn dioddef trallod seicolegol, ond ei fod yn gynnyrch amgylchedd sydd wedi methu â rhoi iddo’r sgiliau gwybyddol sy’n angenrheidiol i fyw bywyd sy’n cadw at y gyfraith.  O ganlyniad, maen nhw’n tueddu at fyrbwylltra a meddwl dim ond am eu hunain, yn ymddwyn yn amhriodol a chael agweddau, gwerthoedd a chredoau a all gefnogi’r ymddygiad hwn.

Mae CBT yn cyfuno technegau gwybyddol ac ymddygiadol ac wedi’i seilio ar y ddamcaniaeth bod anawsterau presennol rhywun yn cael eu gwaethygu a’u cynnal gan batrymau diffygiol o feddwl ac ymddwyn.  Mae ymddygiadaeth, damcaniaeth seicolegol a ddatblygwyd yn y 1940au, yn pwysleisio dylanwadau amgylcheddol ar ymddygiad, tra bod y dull gwybyddol yn canolbwyntio ar ffactorau megis iaith, meddwl, cof a chredoau.  Mae’r pwyslais ar y dylanwadau mewnol, yn hytrach nag ar y rhai allanol.  Mae’r ymagwedd ymddygiadol wybyddol a ddatblygwyd yn y 1970au yn cyfuno’r ddwy ddamcaniaeth hyn; mae’n derbyn pwysigrwydd ffactorau amgylcheddol o ran dylanwadu ar ymddygiad, ond yn ystyried bod rôl gwybyddiaeth (prosesau meddwl) yr un mor bwysig.  Felly, bydd yr ymagwedd yn cynnwys datblygu sgiliau meddwl rhywun gyda’r nod o wella sgiliau megis datrys problemau, meddwl am y canlyniadau, meddwl yn wahanol, gwneud penderfyniadau a meddwl yn greadigol.  Ei nod yw lleihau meddyliau negyddol awtomatig a lleihau byrbwylltra, sy’n ffactor mawr yn y rheswm mae pobl ifanc, yn arbennig, yn troseddu.

Gydraeddoleb Ac Amrywiaeth

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 14/9/2011
SWFRS