Bwriad y tudalen hwn yw rhoi arweiniad i rieni a gwarcheidwaid sydd efallai’n poeni am blentyn neu rywun ifanc sy’n chwarae â thanau neu yn eu cynnau.
Dylai rhieni a gwarcheidwaid sydd â phryderon am ymddygiad plant sy’n cynnau tanau ddilyn y cyngor yn y llyfryn hwn
Yn gyntaf, peidiwch â dychryn yn ormodol – mae’n ddigon naturiol i blentyn fod yn chwilfrydig am dân.
DARLLENWCH Y CYNGOR PWYSIG HWN!
Os digwydd tân, rhybuddiwch weddill y teulu ac EWCH ALLAN, ARHOSWCH ALLAN, A GALW’R Y GWASANAETH TÂN!
Dylech chi ddod yn ymwybodol yn weddol gyflym os yw’ch plentyn yn chwarae â thân o hyd.
Cadwch lygad allan am dyllau llosg bach mewn carpedi, papur wedi’i losgi yn y sinc neu’r basgedi sbwriel.
Gall matsis a thaniwr fod wedi’u cuddio yn eu cypyrddau, droriau, o dan y gwely neu efallai eu bod yn gwybod yn union ble i ddod o hyd i’ch rhai chi hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eich bod wedi’u cuddio.
Gall y bydd eich plentyn yn sôn am ei ddiddordeb mawr mewn tân.
Gallech chi gael tân heb wybod beth oedd yr achos.
Mae plant a phobl ifanc yn dechrau chwarae â thân am resymau amrywiol, o chwilfrydedd naturiol i geisio sylw neu alwad am help.
Heb help ac arweiniad, gall cynnau tanau gynyddu ac arwain at ganlyniadau mwy difrifol fel anaf personol difrifol a difrod i gartrefi, ysgolion ac eiddo arall.
Mae angen cydnabod yr ymddygiad hwn a mynd i’r afael ag ef yn briodol er mwyn ei gwneud yn llai tebyg o ddigwydd eto.
Ystyriwch yr hyn ydych chi’ch hunain yn ei wneud a sut y gallai hyn ddylanwadu ar ymddygiad y plant a’r bobl ifanc rydych yn gyfrifol amdanyn nhw.
Dilynwch y cyngor yn y daflen hon, gallech ei gwneud yn llai tebyg y bydd eich plentyn yn dechrau tân dinistriol.
Os ydych chi’n meddwl bod y broblem yn ddifrifol neu os ydych chi’n teimlo bod angen help arnoch i fynd i’r afael â hi, gallwch ein ffonio.
Mae Cynllun Ymyrraeth y Rhai sy’n Cynnau Tanau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae’r Cynllun hwn yn cynnig help gan Bersonél y Gwasanaeth Tân sydd wedi’u hyfforddi’n benodol i weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi dangos diddordeb mewn tân sy’n peri gofid.
Mae’r Cynllun yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc o unrhyw oedran.
Mae’r cynllun yn cynnig rhaglenni gwahanol o addysg a chyngor i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd neu unrhyw asiantaeth sydd efallai’n gysylltiedig.
Mae’r rhaglenni’n cynnwys Ymweliad â’r Cartref, rhaglen SAFE (4 sesiwn fel arfer) a rhaglen FIRESAFE (10 sesiwn). Fel arfer mae pobl ifanc sydd wedi’u dal am losgi bwriadol yn dilyn y rhaglen hwy; fodd bynnag, nod y cynllun yw helpu atal pobl ifanc rhag eu cael eu hunain yn y sefyllfa hon. Fel arfer, cynhelir y sesiynau ar gyfer rhaglenni SAFE a FIRESAFE mewn Gorsaf Dân ac maent yn para am ryw awr.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y Cynllun a’r rhaglenni sydd ar gynnig, cysylltwch â ni ar:
Ffon: 01443 232407/416/436 E-bost: fis@southwales-fire.gov.uk
Cynllun Ymyrraeth Cynnau TanauAdran Diogelwch CymunedolGwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LlantrisantPontyclunCF72 8LX