Ymladdwyr Tân Ifanc 

Ymladdwyr Tân Ifanc  -  Mwy na chwistrellu dŵr

Rhaglen ddwy flynedd yw’r cynllun Ymladdwyr Tân Ifanc a’r weithgaredd ieuenctid fwyaf blaenllaw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cynllun cadetiaid gwisg yw e, sy’n cael ei redeg er lles pobl ifanc gwrwaidd a benywaidd, rhwng 14 a 18 oed. Mae gennym ganghennau yn 10 Gorsaf Dân ar draws De Cymru. Mae gan Ymladdwyr Tân Ifanc injan dân eu hunain, ac offer wedi’i haddasu yn arbennig.  Gan ddefnyddio’r offer arbennig yma, maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol sy’n adlewyrchu driliau ymladd tân.  Byddant yn dysgu’r sgiliau y defnyddir gan Ymladdywr Tân a chân eu hyfforddi i ddefnyddio’r offer ymladd tân megis pibellau dŵr, ysgolion ac offer anadlu.  Prif nod y cynllun yw magu’r syniad o ddinasyddiaeth yn y bobl ifanc.

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddyletswydd statudol i addysgu am ac atal tân.  Bydd pob un o’r Ymladdwyr Tân Ifanc yn gweithio tuag at gymhwyster BTEC Lefel 2 mewn Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned, gydag astudiaethau’n canolbwyntio ar ddiogelwch tân yn y cartref, llosgi bwriadol, ymddygiad wrth-gymdeithasol a gwrthdrawiadau traffig ar yr heol.  Hefyd, bydd Ymladdwyr Tân Ifanc yn cynllunio prosiectau cymunedol eu hunain a chymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian.

Ar hyn o bryd, mae grwpiau yn cwrdd yn y Gorsafoedd Tân canlynol ym mhob un o’n Hawdurdodau Unedol:

Beth sy’n digwydd yn ystod y nosweithiau yma ….

Byddwch yn derbyn gwisg a cit tân.  Byddwch yn mynychu bob noson drilio yn ystod tymor ysgol, o 6.30 tan 9yh, a byddwch yn dilyn rhaglen ddatblygu ac hyfforddi ieuenctid.  Fel rhan o’r raglen hon, byddwch yn cymryd rhan mewn driliau, ymarferion, dysgu sut i ddefnyddio offer tân ac achub a dysgu am ein gweithdrefnau.  Gan gymryd rhan yn y driliau yma, byddwch yn dysgu sut i weithio fel rhan o dîm yn ogystal â hunanddisgyblaeth.  Ond yn bennaf, cewch hwyl a sbri.

Oes diddordeb gennych mewn mynychu’r Cynllun Ymladdwyr Tân Ifanc?

Gallwch ymgeisio mynychu ar unrhyw adeg, caiff eich ffurflen gais ei chadw gennym, bydd Rheolwr y Cangen yn cysylltu â chi yn agosach at y dyddiad i’ch gwahodd i noson agored lle byddwn yn dewis a dethol ein Hymladdwyr Tân Ifanc.  Bydd angen i chi fod rhwng 14 a 16 oed ar ddechrau’r cynllun.

Bydd angen i chi lawrlwytho neu argraffu copi o’r ffurflen gais
Anfonwch eich ffurflenni cais wedi’u llenwi at:-

Tîm Ymladdwyr Tân Ifanc
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Business Forest View
Llantrisant
CF72 8LX

Neu e-bostiwch eich cais at:- YmladdwyrTanIfanc@decymru-tan.gov.uk

Neu ffoniwch ar 01443 232000 i ofyn am ffurflen gais

             Manylion Cyswllt


E-bost:
DTC@decymru-tan.gov.uk 

Ffôn: 01443 232000

 

Young Firefighter Video

Ymladdwyr Tân Ifanc

      Cysylltiadau Defnyddiol

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 31/5/2012
SWFRS