Prosiect Tonypandy 

Mae Prosiect Tonypandy yn rhan o gyfres o brosiectau atal newydd a fydd yn nodi ‘ardaloedd â phroblem’ ar hyd De Cymru.

Amcanion prosiectau o’r fath yw:

  • Adnabod nifer o wahanol grwpiau:
    • Pobl Ifanc rhwng 11-17 mlwydd oed
    • Pobl Ifanc rhwng 10-11 mlwydd oed (Cyfnod Pontio i Ysgol Uwchradd)
    • Mamau Ifanc a Phlant Bach
  • Cynnig nifer o weithdai yn ymdrin â nifer o bynciau.
  • Cynnwys/Annog gweithio mewn partneriaeth.
  • Cysylltu â’r Orsaf leol.
  • Lleihau Tanau Eilaidd yn yr ardal gyfagos.

Bydd Prosiect Tonypandy yn cynnwys gweithdai ar broblemau gan y Prosiect Rap Llosgi Bwriadol, Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar gyfer pobl ifanc sydd wedi’u hadnabod gan y Tîm FIS a chydweithio â mamau ifanc a phlant bach trwy Ddiogelwch Cymunedol, Blynyddoedd Cynnar. Bydd Gorsaf Tonypandy hefyd yn cydweithio â’r bobl ifanc yn rheolaidd. Mae Prosiect Tonypandy hefyd yn cynnwys y Prosiect ‘Stick It’ sy’n cael ei ddarparu gan y Tîm Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid (gweler adran ‘Stick It’). 

Dyma’r Partneriaid lleol sydd ynghlwm â’r prosiect:

  • Valleys Kids
  • Cymunedau yn Gyntaf
  • Heddlu De Cymru
  • Prosiect Ark
  • 7 Ysgol Gynradd leol
  • Prosiect E3

Mae’r prosiect yn para tua 8 wythnos gyda gweithdai ar ôl ysgol a gyda’r nos.

Cynhelir y gweithdai yn un o’r lleoliadau canlynol:

  • Coleg Cymunedol Tonypandy
  • Canolfan Ark
  • Canolfan Soar
  • Gorsaf Tonypandy

Mae Prosiect Tonypandy, ac eraill o’r un fath, yn cael ei ddarparu er mwyn addysgu a rhoi gwybodaeth i bobl ifanc a grwpiau wedi’u targedu am ddiogelwch yn y cartref a pheryglon llosgi bwriadol, trosedd ceir ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ei nod yw integreiddio pobl ifanc i mewn i weithgareddau lleol a phositif, cynyddu gweithio mewn partneriaeth yn yr ardal gan leihau tanau eilaidd yn y broses.

Mae Prosiect Tonypandy am gynnwys pawb ac mae’n cynnig gwybodaeth helaeth.

             Manylion Cyswllt


E-bost:
DTC@decymru-tan.gov.uk 

Ffôn: 01443 232000

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 19/8/2010
SWFRS