Firewatch 

FirewatchMae hwn yn rhaglen diogelu ysgolion sy’n bwriadu hyfforddi grŵp o bobl ifanc o Flwyddyn 8 drwy eu gwahodd i fynychu eu gorsaf dân leol ar gyfer gweithdy rhyngweithiol sydd a’r bwriad o godi ymwybyddiaeth am beryglon tân.

Mae dau o bobl ifanc o bob dosbarth ym Mlwyddyn 8 yn cael eu dewis gan eu hathrawon ar sail eu cymeriad da a’u cymhelliant ac mae’r grŵp yn cael eu cymryd i’r orsaf dân lleol gan staff yr ysgol. Byddant yn cwrdd ag aelodau’r Wylfa Dyletswydd sydd wedi trefnu’r sesiwn gyda’r ysgol a nhw fydd yn cyflwyno’r rhaglen hyfforddiant.

Yn ogystal ag edrych ar wahanol fathau o dân ac argyfyngau mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn delio â hwy, bydd y grŵp yn canolbwyntio ar y perygl i’w hysgol oddi wrth bobl sy’n cynnau tanau yn fwriadol. Maent yn mynd trwy daflenni gwirio niferus o bethau i edrych amdanynt tu fewn a thu allan i’w ysgol sy’n eu galluogi i leihau’r cyfle o ymosodiad llosgi bwriadol.

Ar ddiwedd y sesiwn hyfforddiant, mae disgyblion yn cael tystysgrif a chlipfwrdd, bathodyn a beiro i’w defnyddio wrth batrolio o amgylch yr ysgol. Mae’r ymweliad i’r orsaf dân yn dod i ben wrth ddychwelyd i’r ysgol gyda’r Ymladdwyr Tân lleol er mwyn mynd am daith o amgylch yr ysgol gan ddefnyddio’r taflenni gwirio maent wedi derbyn. Defnyddir y taflenni hyn wrth iddynt batrolio'r ysgol yn ddyddiol mewn parau, gan adrodd am yr hyn maent wedi canfod i aelod o staff.

Rhagwelir y bydd ysgolion yn dilyn y cynllun pob blwyddyn. Yn ogystal â rhoi diogelwch gwerthfawr i’w ysgol mae Fire Watch hefyd yn ddangosydd cadarnhaol sy’n cyfrannu tuag at ethos moesol, cymdeithasol ac ysbrydol yr ysgol. 

             Manylion Cyswllt


E-bost:
DTC@decymru-tan.gov.uk 

Ffôn: 01443 232000

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 14/9/2011
SWFRS