Mae gan Awdurdodau Cyrifol ddyletswydd statudol i weithio gydag asiantaethau a sefydliadau lleol eraill i ddatblygu a gweithredu strategaethau i fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a mathau eraill o ymddygiad sy’n effeithio er gwaeth ar yr amgylchedd lleol. Yng Nghymru, gelwir y partneriaethau statudol hyn yn Bartneriaethau Diogelwch Statudol.
Y ddeddfwriaeth sy’n galluogi’r gwaith hwn yw Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn hybu'r ymarfer o weithio mewn partneriaeth er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn ac mae’n rhoi dyletswydd statudol ar yr heddlu ac awdurdodau lleol i ddatblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau yn eu hardal. Wrth wneud hyn, mae’n ofynnol i’r awdurdodau cyfrifol weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o grwpiau lleol cyhoeddus, preifat, cymunedol a gwirfoddol a gyda’r gymuned ei hun.
Mae Adran 5 Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn nodi pwy yw’r awdurdodau cyfrifol:
Gan weithio â’r partneriaid eraill hyn, bydd rhaid i’r heddlu a’r awdurdod lleol lynu at y cylch canlynol o ddigwyddiadau, gyda’r cylch yn para tair blynedd pob tro:
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gynrychiolwyr ar gyfer pob un o’r deg Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Awdurdod Unedol. Maent fel a ganlyn: -