Os bydd tân yn digwydd 

Yn dilyn tân byddwch yn awyddus i adfer eich cartref yn ôl i fel yr oedd mor gyflym â phosib. Isod, mae’r camau cyntaf y dylech eu cymryd.

Diogelwch

Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i’ch cartref nes bydd yr ymladdwyr tân wedi dweud wrthych ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Gadewch y cyflenwadau pŵer fel mae’r ymladdwyr tân wedi’u gadael, nes bydd y gweithwyr proffesiynol wedi bod i’w gwirio a’u hatgyweirio.

Diogelwch

Rhaid i chi drefnu:

Diogelu ffenestri, drysau ac agoriadau eraill.

Ewch ag eitemau gwerthfawr gyda chi os nad ydych yn bwriadu aros.

Llety

Os na allwch fyw yn eich cartref yna:

Ceisiwch drefnu llety gyda theulu neu ffrindiau.

Os na allwch wneud hynny, gofynnwch i’r heddlu gysylltu â’r adran tai lleol ar gyfer llety brys.

Lles

Os ydych wedi colli eich eiddo oherwydd difrod neu os na allwch fynd yn ôl mewn i’r adeilad yna cysylltwch â gwasanaethau cymdeithasol am gymorth gyda dillad a chyngor ar fathau eraill o gymorth sydd ar gael.

               Ymweliad Diogelwch Tân
               yn y Cartref

Ffôn am dim ar 0800 169 1234

Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein

E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref 
Testun
: 88365 [
Canllaw]

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 21/9/2011
SWFRS