Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref i roi cyngor ar sut i wneud eich cartref yn ddiogel a, lle bo’n briodol, byddwn yn gosod larwm mwg am ddim.
Rydym yn targedu ein hymweliadau mewn ardaloedd neu sefyllfaoedd yr ydym yn ymwybodol fod perygl tân yn uwch, gan gynnwys cartrefi pobl hŷn neu bobl anabl, ond gall unrhyw un sy’n byw yn Ne Cymru wneud cais am ymweliad diogelwch tân yn y cartref.
Os ydych yn poeni y gallai eich cartref fod mewn perygl rhag tân neu os ydych yn adnabod rhywun y credwch sydd angen ein help yna gwnewch gais am ymweliad.
Dim hirach nag ychydig o funudau
Er mwyn lleihau nifer y tanau damweiniol mewn cartrefi yn yr ardal, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cychwyn rhaglen uchelgeisiol ar gyfer Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref.
Mae Ymladdwyr Tân a staff diogelwch tân cymunedol y Gwasanaeth yn ymweld â chartrefi i ddarparu cyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref ac i gyflenwi a gosod larymau mwg am ddim. Yr archwiliadau hyn yw conglfaen y rôl ragweithiol mae’r Gwasanaeth wedi’i mabwysiadu o ran ei ymdrech i leihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau sy’n cael eu hachosi gan danau damweiniol.
Bydd archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn cymryd tuag awr i’w gwblhau.
Lawrlwythwch ein taflen Diogelwch Tân yn y Cartref
Ymweliad Diogelwch Tân yn y Cartref Ffôn am dim ar 0800 169 1234 Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]
Ffôn am dim ar 0800 169 1234
Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein
E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]
Cysylltiadau Defnyddiol