Atgyfeiriadau Risg Uchel a Phobl sy’n Agored i Niwed 

Yn ddiweddar, fe benododd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Gydlynydd Trydydd Sector o fewn yr Adran Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau. 

Mae Donna Crossman wedi’i phenodi fel rhan o’r tîm diogelwch tân yn y cartref i ymgysylltu â sefydliadau trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol i gynyddu nifer yr archwiliadau diogelwch tân yn y cartref sy’n cael eu darparu i unigolion o grwpiau sy’n agored i niwed.

Ers mis Ebrill 2007 mae cyfanswm o 17 marwolaeth wedi bod yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ganlyniad i Danau Damweiniol mewn Cartrefi. O’r rheiny, roedd 12 ohonynt yn y grŵp oedran 60+ ac roedd 9 o’r rhain yn hysbys i asiantaethau eraill ond nid i’r Gwasanaeth Tân.

Yn ystod y flwyddyn yn arwain at fis Ebrill 2010 roedd cyfanswm o 801 o Danau Damweiniol mewn Cartrefi yn ardal GTADC yn unig. 

Mae Adroddiad Diogelwch Tân Atal Tân Cymru 2009 wedi canfod y grwpiau sy’n fwyaf agored i niwed fel a ganlyn:

  • Pobl hŷn (60 +)
  • Oedolion Sengl a Rhieni Sengl
  • Unigolion sy’n byw mewn Amddifadedd
  • Unigolion sy’n byw â nam meddyliol a/neu gorfforol
  • Pobl sy’n ysmygu
  • Unigolion sydd â phroblemau Alcohol / Cyffuriau

Ein nod yw ymgysylltu â sefydliadau sy’n gweithio gyda’r grwpiau hyn yn rheolaidd er mwyn darparu archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim.

               Manylion Cyswllt


Os hoffech fwy o wybodaeth am y fenter hon cysylltwch â Donna Crossman drwy
 

e-bost: d-crossman@southwales-fire.gov.uk
neu rif ffôn symudol : 07768 307709

      Cysylltiadau Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 09/1/2012
SWFRS