Ydych yn adnabod rhywun sy’n cael anhawster gyda deall neu gofio gwybodaeth?
A oes unrhyw ffactoraua allai effeithio ar eu gallu i atal tân rhag cychwyn neu eu hatal rhag ymateb yn gyflym os byddai tân yn eu cartref e.e. problemau symudedd, effeithiau alcohol neu feddyginiaeth bresgripsiwn?
A oes unrhyw gyflyrau iechyd a allai gynyddu eu risg tân yn uniongyrchol e.e. cyflyrau’n ymwneud ag oedran, anableddau dysgu, problemau golwg/clyw?
Ble maent yn byw? Ym mha fath o gyflwr mae eu cartref?
A oes ganddynt gymorth arall neu a ydynt yn byw ar eu pen eu hun e.e. teulu, ffrindiau neu asiantaethau cymorth eraill?
Mae gan De Cymru Dîm Risg Uchel o Arbenigwyr sy’n cynnal archwiliadau diogelwch tân yn y cartref ar gyfer y trigolion sy’n fwyaf agored i niwed yn y gymuned.
Mae larymau mwg ar gael ar gyfer pobl sy’n fyddar neu â nam ar eu clyw. Mae prif uned y larwm yn gweithio ar y cyd â larymau mwg arbenigol sydd wedi’u gosod gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Pan fyddant yn canu, mae’r golau’n fflachio ac mae’r disg sydd ynghlwm yn dirgrynu i roi rhybudd pellach. Caiff yr holl offer arbenigol larymau mwg i bobl fyddar eu cyflenwi a’u gosod gan bersonél gwasanaeth tân hyfforddedig a’u gosod yn rhad ac am ddim.
Rydym hefyd yn cyflenwi amrywiaeth o offer arbenigol i helpu lleihau risg mewn cartrefi. Mae blancedi trydanol, dillad gwely gwrthdan, unedau atal tân yn y cartref, gwifrau estyniad a ffriwyr saim dwfn oll ar gael am ddim os caiff risg ei ganfod fel rhan o Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref.
Lawrlwytho Taflen
Ffôn am dim ar 0800 169 1234
Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein
E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]