Bwriad y rhaglenni yw ymgysylltu â rhieni a’u plant ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch tân yn y cartref a hyrwyddo’r Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim sy’n cael eu darparu gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Mae Cynghorydd Addysgiadol yn mynychu cyfarfodydd grwpiau Cychwyn Cadarn a Dechrau’n Deg er mwyn siarad gyda rhieni am atal tân, canfod tân a gwneud cynllun dianc.
Mae’r cyflwyniad yn dechrau gyda ffilm tair munud yn dangos tân go iawn mewn lolfa neu ystafell wely. Mae’r ffilm yn rhoi sioc i bobl pob tro oherwydd cyflymder y tân wrth iddo ledu ar draws yr ystafell. Mae’r cynghorydd yn siarad am fesurau ataliol yn enwedig o ran diogelwch ysmygu, coginio, trydanol a chanhwyllau.
Mae pwysigrwydd larymau mwg yn cael ei bwysleisio a rhoddir cyngor ar eu lleoli yn gywir a pha mor aml y dylid rhoi prawf arnynt.
Mae dianc rhag tân yn y cartref, gyda phlant, yn bryder mawr ar gyfer rhieni, ac felly fe anogir rhieni i gynllunio, gyda’u plant, beth i’w wneud os byddai tân, a sut i ddianc.
Ar ddiwedd y sesiwn mae ymladdwyr tân yn cyrraedd er mwyn i’r plant gael cyfle i edrych o amgylch yr injan dân a chael hwyl yn chwistrellu dŵr!
Rhoddir nwyddau fel taflenni lliwio a helmedau tân i’r plant yn y grŵp.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda Cychwyn Cadarn a Dechrau’n Deg ar draws y deg Awdurdod Unedol.
Manylion Cyswllt
E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk
Ffôn: 01443 232000