Mae prosiect ‘Stick It’ wedi’i anelu at ddisgyblion blwyddyn 6 sy’n byw mewn ardaloedd sydd â nifer uchel o danau eilaidd yn cael eu cynnau’n fwriadol, megis tanau glaswellt, tanau mewn biniau a thanau sbwriel. Nod ‘Stick It’ yw helpu pobl ifanc i ddod yn gyfarwydd gyda’r Gwasanaeth Tân ac asiantaethau lleol sy’n gweithio yn eu hardal i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnau tanau. Mae’r asiantaethau hyn yn cynnwys yr Heddlu, Gweithwyr Ieuenctid a Gweithwyr Cymunedol.
Mae prosiect ‘Stick It’ yn rhaglen ar ôl ysgol sy’n rhedeg am rhwng 8 a 12 wythnos. Yn ystod y rhaglen bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau sy’n cael eu trefnu gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ac asiantaethau lleol eraill. Ar ddechrau’r rhaglen byddant yn derbyn llyfr sticer y bydd angen iddynt ei lenwi gyda sticeri arbennig a gynlluniwyd gan yr asiantaethau.
Yr unig ffordd y gall y person ifanc gasglu’r sticeri yw drwy gwblhau gweithgareddau arbennig a drefnwyd gan yr asiantaethau. Unwaith fod y person ifanc wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd bydd yn derbyn sticer i roi yn ei lyfr sticer fel cofnod o’i lwyddiant.
Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys, ymweliadau â Gorsaf Dân, gweithdai bwyta’n iach, sesiynau chwaraeon, ymweliadau Heddlu, ymarferion ailgylchu, gweithdai seiclo, sgyrsiau ar losgi bwriadol a llawer mwy. Gobeithio bydd hyn oll yn annog y bobl ifanc i fod yn fwy ynghlwm â gweithgareddau allan o’r ysgol ac felly yn llai tebygol o fod ynghlwm ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ar ddiwedd y rhaglen bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn taith a pharti dathlu gyda’r holl asiantaethau yn cymryd rhan. Bydd y llyfrau sticeri yn cael eu casglu a’u gosod mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill Ipod.
Yn dod cyn hir
Mae’r adran Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid ar hyn o bryd yn ailwampio ac ailgynllunio Gwobr Dug Caeredin a fydd gobeithio yn cael ei gynnal yng ngorsafoedd tân lleol yn 2009.
Manylion Cyswllt E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk Ffôn: 01443 232000
Manylion Cyswllt
E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk
Ffôn: 01443 232000