Ariennir prosiect Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) Cymru Gyfan, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion diogelwch tân i blant o bob oed fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi cyfuno i lunio deunyddiau dysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn seiliedig ar gwricwlwm ABCh Gorchmynion Cenedlaethol Cymru, sydd erbyn hyn yn orfodol yn ein holl ysgolion.
Mae cael un dull safonol i Gymru gyfan yn golygu ble bynnag y bydd plant yn cael eu magu ac os bydd eu teuluoedd yn symud o’r naill ardal i’r llall, y cânt ddysgu am beryglon tân, atal tân, a’r hyn sydd i’w wneud os bydd tân - sef gwybodaeth a allai achub eu bywyd eu hunain a bywydau’u teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae addysg Ddiogelwch Tân yn dechrau mor gynnar â 5 mlwydd oed, gyda menter ‘Tanni’. Mae hyn yn dilyn helyntion cymeriad cartwn sy’n seiliedig ar het dân. Mae’n edrych ar beryglon chwarae â matsis a thanwyr gyda’r plant, gan ddefnyddio’r neges allweddol “Cofia, paid â chyffwrdd”. Mae hefyd yn trafod ymwybyddiaeth o beryglon yn y gegin a diogelwch tân priodol. Yn ychwanegol at waith yn y dosbarth ceir Llyfr Gweithgareddau Diogelwch Tân y mae plant yn ei ddychwelyd adref i’w lenwi gyda’u rhieni.
Manylion Cyswllt
E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk
Ffôn: 01443 232000