Ers mis Ionawr 2004, mae staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn cyflwyno’r ‘Sioe Deithiol Effeithiau' i ddisgyblion Blwyddyn 10.
Gyda’r bwriad o leihau llosgi ceir yn fwriadol a throseddau ceir eraill, mae’r Sioe Deithiol Effeithiau yn gyfres o glipiau newyddion a fideos, lluniau a gwaith grŵp rhyngweithiol sy’n annog unigolion i feddwl am ganlyniadau'r gweithgareddau hyn ar y gymuned leol.
O fewn y rhaglen awr o hyd, gofynnir i ddisgyblion ystyried rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub adeg gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, effaith gwrthdrawiadau ar deulu a ffrindiau'r sawl a gafodd y gwrthdrawiad, a pheryglon gwneud galwadau ffug gan ddargyfeirio’r gwasanaethau brys.
Mae’r Sioe Deithiol Effeithiau yn cael ei noddi gan Raglen Grantiau Bychan ar gyfer Llosgi Bwriadol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe’i cefnogir gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol Caerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg a gweithgorau Troseddu Ceir, Ceir wedi’u Gadael a Llosgi Bwriadol.
Manylion Cyswllt
E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk
Ffôn: 01443 232000