Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r unig wasanaeth tân ac achub yng Nghymru i fod yn berchen ar gŵn ymchwilio tân a’u defnyddio, dim ond 14 o gŵn ymchwilio tân eraill sydd ar draws Prydain. Mae cŵn Ymchwilio Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gweithio ar draws Cymru gyfan, o Sir Fynwy i Rhyl yng Ngogledd Cymru. Eu rôl yw cefnogi’r swyddog ymchwilio tân drwy helpu i ganfod achos tân.
Unwaith bod lleoliad olion yr hylif y gellir ei gynnau wedi’i ddarganfod bydd y ci Ymchwilio Tân yn rhoi arwydd i’w hyfforddwr. Gall yr arwydd fod yn rhagweithiol neu’n oddefol.