Mae wedi dod yn gynyddol amlwg fod cyswllt agos rhwng ymosodiadau llosgi bwriadol a thrais domestig. Mae’r Uned Troseddu Tân yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner er mwyn gwneud i’r dioddefwr deimlo’n ddiogel yn eu cartref eu hunain.
Nod y prosiect yw gweithio’n agos gydag asiantaethau partner yn targedu grwpiau penodol sy’n agored i niwed (Dioddefwyr Trais Domestig a Throseddau Casineb) ac yn wynebu risg tanau bwriadol a thanau damweiniol.
Codi ymwybyddiaeth o fewn y gwasanaeth tân am y materion yn ymwneud â thrais domestig a throseddau casineb a’u harwyddocâd i’r sefydliad a’r cymunedau a wasanaethwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Drais Domestig neu Droseddau Casineb cysylltwch â:
Caroline Psaila, Uned Troseddu Tân
Rhif Ffôn: 01443 232654 / 0800 731 72 87
E-bost: ATD@decymru-tan.gov.uk
Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, Cynllun Dianc a Chyngor Cyffredinol.
Blwch Post
Bydd blwch post metal yn dal y rhan fwyaf o ddeunyddiau sy’n llosgi (gan gynnwys tân gwyllt) sy’n cael eu gwthio drwy’r blwch llythyron. Os caiff y blwch ei osod yn gywir a’i gynnal a’i gadw, bydd yn cau pan fydd eitem sy’n llosgi ynddo, gan gyfyngu’r cyflenwad ocsigen sy’n bwydo’r fflamau. Mae blychau llythyron a blychau post chwyddedig hefyd ar gael, sydd â’r fantais ychwanegol o ddal unrhyw gyflymydd hylif (megis petrol) sy’n cael ei roi drwy’r agoriad.
Beth yw trosedd casineb?
1. Caiff 'trosedd casineb' ei ddiffinio fel unrhyw drosedd sy’n cael ei chyflawni yn erbyn person neu eiddo sy’n cael ei hysgogi gan gasineb y troseddwr tuag at rywun oherwydd eu:
Mae troseddu yn gallu digwydd mewn ffurfiau amrywiol gan gynnwys; ymosodiadau corfforol, bwlio yn yr ysgol neu yn y gwaith, graffiti ymosodol, llythyron a galwadau sarhaus, ac wrth gwrs llosgi bwriadol.
2. Sut mae hyn yn effeithio ar y Gwasanaeth Tân ac Achub?
Mae nifer o’r tanau bwriadol yr ydym yn eu hymladd wedi’u hysgogi gan gasineb
Yn amlwg, mae’n hyn yn peryglu bywydau ac eiddo ac mae ymddygiad o’r fath yn ofnadwy. Hefyd, mae’r gwasanaethau brys yn aml yn derbyn galwadau tân ffug maleisus sy’n arwain atom yn anfon injans tân i gartrefi pobl nad oes arnom angen ein help.
Fe allai hwn ymddangos i fod y ddigon diniwed, ond mae gwneud hyn yn gallu cynhyrfu’r dioddefwyr yn fawr iawn, ac mae hefyd yn tynnu’r peiriannau tân achub bywyd oddi wrth ymateb i danau gwirioneddol.
Felly, mae’r troseddwyr hyn yn peryglu ein bywydau ni oll a hefyd;
Dydyn nhw ddim yn poeni!
3. Beth mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ei wneud am ‘drosedd casineb’?
Mae’r Uned Troseddu Tân yn cynnal ymgyrchoedd yn y cyfryngau ac yn cynnig arweiniad i’r cyhoedd pan fydd ganddynt bryderon am risg llosgi bwriadol neu droseddau casineb eraill.
Rydym yn gweithio gyda’r Heddlu i sicrhau dull cydlynol o ddelio â’r mater hwn a rhannu adnoddau. Rydym yn gweithio gyda ‘Cymorth i Ddioddefwyr’ a’r Fan Bobi er mwyn gwneud cartrefi pobl sy’n agored i niwed yn llefydd mwy diogel i fyw.
Rhif Ffon: 01443 232654 / 0800 731 72 87