Car ‘Criwsio’ Tân  

 kt_cruize_image

Arf atyniadol yw’r Car ‘Criwsio’ Tân a grëwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gyfathrebu â phobl ifanc rhwng oedrannau 15 a 25 – ein grŵp oedran sydd mwyaf mewn perygl – yn eu ‘cynefin’ a’u haddysgu am brif achosion damweiniau ceir.

Adnabyddir y Focus ST fel un o’r ceir mwyaf poblogaidd ymysg gyrrwyr ifanc. Fe’i harfogir â:

  • System gerdd perfformiad uchel ‘Focal’
  • Teledu sgrîn lydan 40 modfedd
  • Goleuadau Deuodau Allyrru Golau (LED) o dan y car
  • Peiriant X-Box Kinnect

Drwy ein hymchwil, rydym yn medru adnabod poethfannau lle cofnodwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys casgliadau o geir. Yn ogystal, defnyddir y cynllun hwn i dargedu cynulleidfa yrru llawer mwy amrywiol, gan gynnwys cyflogwyr gyrrwyr ifanc, troseddwyr ifanc epiliog, a chymunedau, ysgolion a cholegau amrywiol.

Yma, gall bobl ifanc brofi’u sgiliau drwy ymarfer Canfyddiad Perygl – rhoddir gwahanol sefyllfaoedd gyrru iddynt a bydd gofyn iddynt adnabod peryglon posib. Bob mis bydd y person sydd â’r sgor uchaf yn ennill cwrs gyrru diogel uwch!

Unig bwrpas hwn yw i gynyddu eu gwybodaeth a chynnig cyngor ar ganlyniadau ymddygiad gyrru gwrthgymdeithasol - yn enwedig pan y’i cyfunir â diffyg profiad – i gynorthwyo i newid agweddau ac ymddygiad tuag ato, ac felly’n anelu i leihau ymhellach nifer y marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

  Canfyddwch ni ar Facebook ‘KT Cruize’

           Gwybodaeth Berthnasol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 17/1/2012
SWFRS