Mae’n debyg y byddwch chi wedi clywed am Pass Plus, cwrs o chwe gwers gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru sy’n helpu i roi profiad gyrru ychwanegol gwerthfawr ac sy’n eich dysgu sut i ddelio â nifer o sefyllfaoedd ar y ffyrdd ac sy’n gysylltiedig â thraffig mae’n bosib na fyddwch wedi dod ar eu traws wrth ddysgu.
Mae Pass Plus wedi bod yn rhaglen lwyddiannus iawn wrth ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sydd gan y gyrwyr eisoes gan leihau’r risg o fod mewn damwain car ac arbed arian ar yswiriant car.