Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu a Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd er mwyn addysgu’r cyhoedd ynghylch diogelwch ar y ffyrdd.
Daeth y gwasanaethau brys at ei gilydd ar gyfer ymgyrch ‘Opsiynau’ er mwyn addysgu’r cyhoedd ar sut y gallai man newidiadau i’r ffordd maent yn gyrru achub eu bywyd hwy a bywydau pobl eraill. Roedd Swyddogion Heddlu yn eu lle tu allan i Orsafoedd Tân yn y trefi a’r dinasoedd sydd â rhai o’r lefelau uchaf, yn ystadegol, o ran Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd yng Nghymru.
Gall y troseddwr gytuno i dalu’r ddirwy.
The Gall y troseddwr fynd i Orsaf Dân leol a gwylio cyflwyniad ddeng munud o hyd am ganlyniadau erchyll peidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cafodd 171 o fodurwyr eu hatal gan swyddogion yr heddlu tu allan i saith Gorsaf Dân gwahanol yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd (2008). Cafodd pob un eu hatal am nad oeddent yn gwisgo gwregys diogelwch wrth yrru, neu am deithio mewn cerbyd heb wisgo gwregys..
Wedi cael y dewis, dim ond tri pherson ddewisodd y ddirwy/pwyntiau cosb. Roedd yn well gan 168 o bobl fynd mewn i’r Gorsafoedd Tân a gwylio cyflwyniad difrifol iawn, 10-15 munud o hyd.
Roedd 100% o’r bobl a welodd y cyflwyniad yn dweud y byddent yn sôn wrth bobl eraill amdano a dywedodd 98% ei fod wedi newid eu canfyddiad hwy ynghylch peryglon gyrru heb wisgo gwregys diogelwch.
Cafodd y Gorsafoedd Tân canlynol eu targedu yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
Merthyr Tudful, Tonypandy, Caerdydd Canolog a’r Barri (ardal Heddlu De Cymru) – cafodd 90 o droseddwyr eu hatal gan yr heddlu.
Caerffili, Aber-carn a Glynebwy (ardal Heddlu Gwent) – cafodd 78 o droseddwyr eu hatal gan yr heddlu.
Nod y fenter diogelwch hon yw eich hysbysu am beryglon a chanlyniadau peidio â gwisgo gwregys diogelwch..
Yr amcan yw lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd ac yn cael eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.
Rydym am addysgu yn hytrach nag erlyn.
COFIWCH - Mae’r gwir wrthdrawiad yn digwydd tu fewn i’r car
Does dim un o’r rhain yn ddigon da!!
Holiadur ar-lein