Rhagarweiniad 

Gellir priodoli 98% o’r holl wrthdrawiadau sy’n cynnwys traffig ar y ffyrdd i wall dynol. Efallai mai chi fydd nesaf! Chi sydd i benderfynu beth i’w wneud ar y ffyrdd!  Mae gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yn fwy cyffredin bellach na thanau mewn tai ac, yn anffodus, yn arwain at fwy o farwolaethau. Yn 2009, cafodd 7126 o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru.

Mae’n flaenoriaeth fawr felly i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru dynnu sylw at y peryglon sy’n bodoli i bobl sy’n teithio ar y ffyrdd yn Ne Cymru a chodi ymwybyddiaeth ynghylch y mesurau syml y gallant eu cymryd i sicrhau eu bod nhw, y bobl sy’n teithio gyda nhw a phobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd yn ddiogel.

  • Mae llawer o’r rhai sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd yng Nghymru yn yrwyr ifanc.
  • Gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy’n lladd y nifer mwyaf o bobl rhwng 17 a 25.

O blith yr holl bobl sy’n cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd mae traean ohonyn nhw’n yrwyr ifanc ac mae un rhan o bump o’r holl yrwyr sydd newydd gael eu trwydded mewn gwrthdrawiad o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl pasio eu prawf.

Cofiwch, mae’n well bod bum munud yn hwyr yn y bywyd hwn na 50 mlynedd yn gynnar yn y bywyd nesaf!

           Gwybodaeth Berthnasol
      Cysylltiadau Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 20/2/2012
SWFRS