Man lle bu gwrthdrawiad (MLlBG) Cymru 

Sioe Deithiol Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd yw CSI (Crash Scene Incident) sydd wedi’i hanelu’n bennaf at bobl ifanc 17-25 oed sydd wedi’u nodi fel y grŵp sydd fwyaf mewn perygl. Yn y sioe, trafodir canlyniadau’r digwyddiadau dychrynllyd hyn sy’n trawsnewid bywydau pobl.. 

Ein nod yw lleihau’n sylweddol nifer y bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd yn Ne Cymru.

Ei ddiben

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd o 10 awdurdod lleol ar draws De Cymru wedi ymuno â’i gilydd i gyflwyno’r fenter hon i fyfyrwyr mewn ysgolion, y chweched dosbarth a cholegau yn yr ardal. 

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at grŵp o fyfyrwyr sy’n derbyn cyflwyniad cychwynnol ar y theori yn y coleg neu’r ysgol. Canolbwyntia ar sut y gall un ddamwain ar y ffyrdd effeithio ar lawer o bobl wahanol yn ogystal â’r bobl sy’n cael eu hanafu a’u teuluoedd.   

Ar ôl hyn, bydd y myfyrwyr yn cael eu harwain allan i weld car sydd wedi bod mewn damwain go iawn, wedi’i godi ar dreilar. Roedd y cerbyd hwn, Vauxhall Corsa, yn rhan o wrthdrawiad lle gwnaeth y perchennog 18 oed lwyddo i ddianc yn fyw, yn bennaf oherwydd ei fod yn gwisgo ei wregys diogelwch.

Wedi hynny, bydd y myfyrwyr yn cael sgwrs ynghylch y peryglon wrth yrru sef: alcohol a chyffuriau, gyrru ar gyflymdra sy’n amhriodol a defnyddio gwregysau diogelwch yn anghywir.

Mae’r pynciau trafod yn cynnwys:

  • Offer i’w ddefnyddio mewn gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd
  • Bag ar gyfer y corff
  • Galwadau ffug sy’n arwain at lai o adnoddau
  • Dangos pobl o gwmpas y Frigâd Dân
  • Profiad o fynychu Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd

 

      Cysylltiadau Defnyddiol

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 26/9/2011
SWFRS