The Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol De Cymru wedi’i leoli yng Ngorsaf Dân ac Achub Cymunedol Trelái - mae’r tîm yn cynnwys personél o’r Gwasanaeth Tân a’r Heddlu. Bellach, mae’r tîm wedi bod yn gweithredu ers pedair blynedd ac mae wedi derbyn nawdd ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru tan Ebrill 2011.
Mae ardal Trelái wedi gweld canlyniadau sylweddol o ran lleihad mewn tanau ceir ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’r tîm bellach yn gobeithio cyflawni canlyniadau tebyg ar draws gweddill ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Nod pennaf y tîm yw lleihau digwyddiadau o ymddygiad yn ymwneud â llosgi bwriadol ar draws De Cymru.
Sut allwn ni eich helpu chi?
Tanau Cerbyd
Mewn ymateb i’r nifer uchel o danau cerbyd yn Plymouth Woods, mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol ac asiantaethau partner wedi dod at ei gilydd i rwystro’r pwyntiau mynediad i mewn i’r goedwig. Mae hyn wedi atal cerbydau rhag gallu mynd i mewn i’r ardal ac o ganlyniad wedi lleihau’r nifer o danau cerbyd bwriadol yn yr ardal.
Cynllun Elvis
Mae Elvis yn golygu Easy Link Vehicle Information System, neu System Gwybodaeth Cerbydau Cyswllt Hawdd, cronfa ddata gyfrifiadurol sy’n cofnodi pob adroddiad am geir sydd wedi cael eu gadael. Mae system Elvis yn helpu cael gwared ar geir sydd wedi’u llosgi oddi ar ein strydoedd ac mae’n cael ei weithredu mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd a’r cwmni adfer Bayliss.
Silindrau Nwy
Mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn trefnu digwyddiadau amnest ar gyfer gwaredu silindrau nwy sydd wedi’u defnyddio. Yn ystod ymweliadau safle bydd y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn atafaelu silindrau nwy y maent yn ystyried i fod yn ‘berygl llosgi bwriadol’ ac yn trefnu casglu a gwaredu’r silindrau hyn yn ddiogel. [mwy o wybodaeth][more information]
Adeiladau Gwag
Mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn cael gwybod am adeiladau gwag sy’n cael eu defnyddio gan bobl yn anghyfreithlon. Caiff hyn ei gyflawni drwy: asiantaethau partner, mynychu cyfarfodydd grŵp a gwybodaeth gan aelodau’r cyhoedd/y gymuned. Yna, maent yn cysylltu gyda’r adrannau perthnasol yn y cyngor er mwyn diogelu’r adeilad i’w atal rhag cael ei dargedu ar gyfer llosgi bwriadol.
Ysgolion
Gan ddefnyddio nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol ynghyd ag awdurdodau addysg lleol yn canfod yr ysgolion sy’n cael eu hystyried i fod yn wynebu’r risg mwyaf o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a digwyddiadau llosgi bwriadol. Cynhelir arolygon atal troseddu ar yr ysgolion gan swyddogion atal troseddu cymwysedig, er mwyn asesu pa ysgolion fyddai’n elwa fwyaf o gyflwyno mesurau ataliol.
Pobl Ifanc - Gŵyl Ddysgu'r Haf (Oedran 11-15)
Fel rhan o Ŵyl Ddysgu'r Haf, sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Caerdydd, mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn rhoi ‘Cyflwyniad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub’. Mae’r cwrs yn cynnwys: profi tân go iawn mewn adeilad a deall sut mae mwg yn teithio, dysgu am offer anadlu a thechnegau ymladd tân, ymarferion fel rhedeg y bibell ddŵr a thechnegau rhyddhau o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Mae’n gyfle i bobl ifanc ddysgu am losgi bwriadol a sut y gall effeithio arnynt hwy a’u cymuned.
Mentrau - Y Tîm Llosgi Bwriadol:
Cyrsiau Ymwybyddiaeth Llosgi Bwriadol
Mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn ddiweddar wedi cynllunio a throsglwyddo, ar y cyd â thimau troseddu ieuenctid, nifer o ddiwrnodau ymwybyddiaeth llosgi bwriadol yng Ngorsaf Dân Trelái.
Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth am effeithiau a chanlyniadau llosgi bwriadol.
Mae’r sesiynau’n cynnwys taith o amgylch Gorsaf Dân Trelái, gweithdai fideo yn ymwneud â llosgi bwriadol, gweithdy canlyniadau a gweithredoedd, cwis a chyflwyniad llosgiadau ac effeithiau.
Mae cynrychiolwyr o goleg Cross Keys yn mynychu er mwyn gwneud colur effaith arbennig i ddangos llosgiadau.
Tim Lleihau Llosgi Bwriadol
Ffon: 0800 7317287 E-bost: llosgibwriadol@decymru-tan.gov.uk
Dysgu a Datblygu
Ffon: 01443 232000 E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk