Llosgi gwastraff eich gardd yn ddiogel 

Mae’r Hydref ar ein gwarthaf, ac mae’n hen bryd tocio gwrychoedd yr Haf a thacluso’r ardd.

Os ydych yn dymuno llosgi gwastraff eich gardd, sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:

  • hysbyswch ein hystafell reoli o’ch bwriad i losgi ar 01443 232000
  • hysbyswch eich cymdogion rhag blaen
  • adeiladwch goelcerth pellter digonol a diogel o’ch tŷ, ffens yr ardd a’r sied
  • gwiriwch am geblau uwch eich pen
  • llosgwch ddeunyddiau sych yn unig gan bydd llai o fwg
  • peidiwch â’i hadeiladu yn rhy uchel
  • peidiwch â’i adael heb oruchwyliaeth (cadwch fwced o ddŵr gerllaw)
  • wedi i’r goelcerth ddiffodd, taenellwch y marwydos gyda dŵr i’w hatal rhag ail gynnau

         Cysylltwch â ni


Ffôn: 01443 232000 a gofynnwch am aelod o’r Uned Troseddau Tân.

E-bosttroseddutan@southwales-fire.gov.uk

      Cysylltiadau Defnyddiol


  DirectGov

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 27/9/2011
SWFRS