Diwrnodau Ymwybyddiaeth Troseddau Cerbydau 

Diwrnodau Ymwybyddiaeth Troseddau CerbydauAmcan Diwrnodau Ymwybyddiaeth Troseddau Cerbydau yw denu cynulleidfa wadd o droseddwyr ifanc sydd eisoes wedi bod yn rhan o droseddau treisgar, i feddwl am ganlyniadau’u gweithredoedd, iddynt hwy eu hunain ac i eraill pe baent yn cyflawni troseddau sy’n gysylltiedig â cherbydau.

Dengys tystiolaeth o ddiwrnodau Ymwybyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf eu bod yn ffordd effeithiol iawn o wneud i droseddwyr ifanc ystyried effaith eu gweithredoedd o ddifrif.  Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio gyda’r Heddlu, Timau Troseddau Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans GIG, y Gwasanaeth Carchardai a Cymorth i Ddioddefwyr er mwyn cyflwyno’r mentrau hyn, sy’n digwydd mewn Gorsafoedd Tân ar draws De Cymru. Mae Timau Troseddau Ieuenctid yn nodi rhai troseddwyr sydd wedi bod yn rhan o droseddau sy’n gysylltiedig â cherbydau a allai elwa o well ymwybyddiaeth o ganlyniadau eu gweithredoedd.

Mae’r digwyddiadau’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys ail-greu damwain drafnidiaeth yn llawn (yn cynnwys yr holl wasanaethau trafnidiaeth), sgyrsiau ac arddangosfeydd gan yr holl asiantaethau sy’n gysylltiedig.

Datganiadau i’r wasg

Cyhoeddiadau
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 07/9/2011
SWFRS