Ystafell Reoli 

 
Lleolir Ystafell Reoli De Cymru yn Mhont-y-clun. Dyma'r man cyswllt cyntaf i aelodau'r cyhoedd sydd yn deialu 999 i ofyn am gymorth mewn argyfwng gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. Wedi'i staffio gan un o bedair gwylfa, 24 awr y dydd, mae'r Ystafell Reoli yn derbyn tua 50,000 o alwadau brys y flwyddyn. Mae'r galwadau yma'n cynnwys tanau mewn tai, damweiniau traffig ar ffyrdd, a phobl wedi'u maglu neu wedi'u hymadael.

Staff yr Ystafell Reoli

Mae pedair gwylfa (Coch, Gwyn, Glas a Gwyrdd) yn staffio'r Ystafell Reoli dros gyfnod o 24 awr. Mae pob gwylfa'n gweithio system o gylchdroi sifftiau dau ddiwrnod naw awr (9yb i 6yh), dwy noson (6yh i 9yb), a pedwar diwrnod heb fod ar ddyletswydd.

Mae pob gwylfa yn cynnwys wyth Gweithredydd Rheoli Tân, dwy Reolwraig Griw a Rheolwr/Rheolwraig yr Wylfa. Mae Tîm Rheoli'r Ystafell Reoli yn gyfrifol am redeg yr Ystafell o ddydd i ddydd, ac yn atebol i Brif Swyddog yr Ystafell Reoli Tân.

Mae pob aelod o staff yr Ystafell Reoli wedi'u hyfforddi i safon uchel ac mae angen iddynt weithredu ystod o wybodaeth technoleg cymhleth. Mae rhaid iddynt allu ymateb yn gyflym, meddwl yn gloi a chymryd a throsglwyddo ac ymateb i gyfarwyddiadau'n fanwl gywir.

Mae angen arnynt hefyd sgiliau cyfathrebu ardderchog arnynt hefyd yn ogystal â'r gallu i weithio'n dda o dan bwysau ac fel rhan o dîm glòs.

Sichau bod adnoddau ar gael i ymateb mewn Gorsafoedd Tân eraill

Un o'r tasgau mwyaf pwysig sydd gan staff yr Ystafell Reoli ydy sicrhau bod adnoddau ar gael i ymateb mewn Gorsafoedd Tân eraill, felly os derbynnir galwadau brys eraill, bydd staff yr Ystafell Reoli yn gwneud symudiadau wrth gefn trwy symud injans tân i Orsafoedd Tân i sicrhau eu bod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau dilynol.

Beth sy'n digwydd os oes argyfwng yn yr Ystafell Reoli ei hun?

Mae cynlluniau wrth gefn yn eu lle, sydd wedi'u treialu a phrofi yn barod, i gynnal yr ymateb brys, gan gynnwys cyflenwadau pŵer wrth gefn a methiant cyfrifiaduron. Lleolir Ystafell Reoli eilaidd mewn tref cyfagos er mwyn i staff yr Ystafell Reoli ail-leoli yna yn gyflym. O'r fan hyn, mae'n bosib dyblygu gweithrediadau argyfwng yr Ystafell Reoli heb golli effeithiolrwydd.

      Cysylltiadau Defnyddiol
           Gwybodaeth Berthnasol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 20/9/2011
SWFRS