Ystadegau 

Yn ystod 2007/08, mynychodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mwy na 28,298 o ddigwyddiadau argyfwng.  Roedd mwy nag un galwad ffôn am rai o'r digwyddiadau yma, felly trinwyd â 53,046 galwad gan yr Ystafell Reoli; mae hynny'n fwy na 145 galwad brys bob dydd.   Yn ogystal â hyn roedd mwy na 900 o alwadau Diachos Maleisus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Prif danau: dyma'r tanau mwy difrifol sydd yn effeithio ar eiddo ac/neu gleifion

Tanau Eilaidd: dyma'r tanau llai difrifol sydd yn aml yn digwydd tu fas a ddim yn effeithio ar eiddo neu achosi anafiadau

Tanau simneiau: dyma'r tanau sydd yn digwydd mewn cartrefi lle mae pobl yn byw, ond bod nhw'n cyfyngedig i'r simnai a dim yn achosi anafiadau

Dychryn di-sail: mae'r rhain yn cael eu categoreiddio fel:

  • bwriad da (pan fydd unigolyn yn amau bod tân go iawn wedi dechrau ac yn seinio rhybudd),
  • maleisus (galwadau ffug), neu
  • larymau tân awtomatig (sydd yn seinio oherwydd diffygion yn yr offer neu mwg coginio, stêm, ysmygu ayyb)

Gwrthdrawiadau traffig ffyrdd: weithiau bydd ymladdwyr tân yn defnyddio offer torri a chodi arbennigol i ryddhau pobl o gerbydau

GGA: Galwadau Gwasanaeth Arbennig (nad ydy'r rhain yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ffyrdd) fel llwyddo i fynd mewn, rhyddhau pobl, achub anifeiliaid, rhyddhau o lifft, darparu a gwaredu â dŵr, delio â gorlifoedd a cholledion, cynorthwyo'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans

Gydraeddoleb Ac Amrywiaeth

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 07/9/2011
SWFRS