Yn syfrdanol, gwnaethpwyd 929 o alwadau ffug i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru o 1af o Ebrill 2007 i 31ain o Fawrth 2008, gyda phob un yn costio tua £650 i'r economi lleol i'w fynychu.
Nid yn unig ydy galwyr maleisus yn dreth enfawr ar adnoddau, ond hefyd mae eu hymddygiad di-feddwl yn peryglu bywydau a diogelwch y cyhoedd.
Mae rhaid i Ymladdwyr Tân ymateb i bob galwad brys a wneuthir. Os ydynt yn cyrraedd cyfeiriad a darganfod mai ffug galwad ydy, gall hyn achosi oedi iddynt gyrraedd digwyddiad argyfwng difrifol lle mae angen iddynt achub rhywun sydd wedi'i maglu mewn tân mewn tŷ neu wrthdrawiad ar y ffordd.
Ystyriwyd dros hanner y galwadau brys a dderbynnwyd trwy'r system 999 yn y DU y llynedd i fod yn alwadau ffug.
Mewn nifer fawr o argyfyngau, mae pob eiliad yn holl bwysig. Gall gynnyddu'r amser mae'n cymryd i griwiau tân ymateb, os ydynt yn cael eu ailgyfeirio gan alwad ffug, wneud gwahaniaeth rhwng achub neu golli bywyd.
Mae pob galwad i'r Ystafell Reoli'n cael ei recordio. Gall eu holrheinio i'r galwr ar unwaith. Nad ydy hyn yn berthnasol i dirwifrau yn unig; gall olrheinio a recordio galwadau o giosgau ffôn cyhoeddus a ffonau symudol hyd yn oed. Nad ydy'n bosib defnyddio'r côd 141 i gyddio'r rhif wrth ffonio 999.
Mae'n anghyfreithlon i wneud galwad brys ffug. Mae pobl yn gallu, ac wedi, eu herlyn am wneud galwadau ffug, gyda dirwy o hyd at £5,000 neu chwe mis yn y carchar.
Mae'r Ystafell Reoli wedi cyflwyno mentrau amrywiol i leihau'r nifer o alwadau ffug mae rhaid i griwiau tân ymateb iddynt yn Ne Cymru, gan gynnwys technegau herio galwadau ac ymweliadau addysgol i'r Ystafell Reoli.
Mae system fyddino Vision yn defnyddio technoleg arloesol i helpu ni gydnabod galwyr ffug.
Mae'r technoleg yn helpu oherwydd gallwn weld lleoliad y galwr a'i gymharu â'r cyfeiriad y digwyddiad a roddir gan y galwr. Gall weithredwyr holi'r galwr ym mhellach a'i herio os nad yw'r wybodaeth yn gyfateb.
Hefyd, bydd y system Vision newydd yn cadw cyfeiriad y digwyddiad a rhif ffôn y galwr. Arddangosir y wybodaeth yma gan y system os:
hefyd