Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae staff Rheoli Tân wedi cynnal cyflwyniadau ar gyfer tua 2000 o bobl, a hynny’n fewnol ac yn allanol i’r sefydliad. Ein prif gynulleidfa yw plant ysgol cyfnod allweddol 1, 2 a 3 ar draws y deg awdurdod unedol. Mae’n cyflwyniadau yn cynnwys testunau megis gyrfaoedd, galwadau ffug a sut i wneud galwad 999 mewn argyfwng. Rydym hefyd yn cyfrannu at ddysgu’r myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Dug Caeredin a phlant ar ‘Rhaglen y Ddraig’ (menter fewnol).
Yn Rhondda Cynon Taf mae’r pedair ysgol uwchradd ar bymtheg a’r pedair ysgol arbennig yn cynnal y rhaglen ‘Byd Gwaith’, mewn cysylltiad â Phartneriaeth Addysg Busnes Morgannwg Ganol. Fel rhan o’r rhaglen hon, mae’r disgyblion yn ymweld â’r Ystafell Rheoli Tân ac mae’r staff Rheoli yn ymweld â’r ysgolion yma ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn academaidd er mwyn eu cynorthwyo nhw gyda thechnegau cyfweld a diwrnodau diwydiant a gyrfaoedd. Dyma pan mae’r disgyblion yn rhyngweithio â’i gilydd ac â’r staff Rheoli i greu posteri, dramâu a cherddi fydd i’w cyflwyno i weddill yr ysgol.
Yn ystod eu hymweliad â’r Ystafell Rheoli mae’r disgyblion yn treulio peth amser yn yr ystafell hyfforddi lle, trwy drafodaethau rhyngweithiol a chyflwyniadau maent yn dysgu am y math o waith sy’n cael ei wneud yn yr Ystafell Rheoli Tân. Yn ogystal, cânt eu dysgu am yr ystod eang o alwadau ffôn gan y cyhoedd ac yn awgrymu sefyllfaoedd y dylid gwneud galwadau 999.
Rydym yn dadlau ynglŷn â galwadau ffug, tanau a gyneuir yn fwriadol a’u hôl- effeithiau posibl a chaiff y plant eu dysgu’n gywir sut i wneud galwad frys.
Mae’r Ystafell Rheoli hefyd yn cael ymweliadau gan grwpiau o blant ag anghenion arbennig. Er bod y pwnc dan sylw yn amrywio ychydig o un grŵp i’r llall, mae’r myfyrwyr yn ymateb yn arbennig o dda i’r amgylchedd Rheoli, ac yn mwynhau darganfod eu cartrefi a’u hysgolion neu’r colegau ar ein system fapio soffistigedig.
Mae’r myfyrwyr hefyd yn dysgu pa mor beryglus yw gwneud galwadau ffug, chwarae â matsis a dechrau tanau yn fwriadol, ac yn mwynhau ymarfer rhoi eu cyfeiriadau gartref i’r Cysylltydd Rheoli pan fyddant yn actio gwneud galwadau brys.