Pan ffoniwch 999, bydd eich galwad yn cael ei ateb gan weithredydd un o'r cwmnïau ffôn. Byddant yn gofyn pa wasanaeth sydd ei angen arnoch: Tân, Heddlu neu Ambiwlans.
Os oes angen y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Ne Cymru arnoch, bydd eich galwad yn cael ei basio ymlaen at Ymladdwr Tân / Ymladdwraig Dân Rheoli yn Neuadd Lanelái. Fel arfer, bydd galwadau'n cael eu hateb o fewn rhwng 2 a 15 eiliad.
Bydd angen i'r Ymladdwr Tân / Ymladdwraig Dân Rheoli dderbyn y wybodaeth berthnasol gennych cyn gynted ac effeithiol â phosib, er mwyn iddynt anfon y criwiau a'r injans tân bydd eu hangen.
Cewch eich ofyn am gyfeiriad, natur (tân, damwain traffig heol, achub ac yn y blaen) a'r union leoliad o'r digwyddiad yr ydych yn adrodd amdano.
Er mwyn helpu'r Ymladdwr Tân / Ymladdwraig Dân Rheoli leoli'r digwyddiadau lle nad ydy'r galwr yn gallu rhoi'r union gyfeiriad ac yn methu cyfeirio at dirnodau sylweddol, gallen olrheinio rhif ffôn y galwr i ddod o hyd i'w leoliad. Mae'r system yma'n cael ei defnyddio i olrheinio galwyra ffug.
Bydd y Ymladdwr Tân / Ymladdwraig Dân Rheoli yn dethol y nifer o gerbydau tân a fydd yn mynd i'r digwyddiad yn y lle cyntaf gan ddefnyddio'r offer cyfrifiadol diweddaraf a sgriniau-cyffwrdd i roi gwybod i'r Orsaf Dân/Gorsafoedd Tân bod angen iddynt fynd i'r digwyddiad.
Mae'r larymau clywadwy a goleuadau yn y Gorsafoedd yn cael eu defnyddio i rybuddio'r ymladdwyr tân ar ddyletswydd bod angen iddynt ymateb. Gyda Gorsafoedd Rhan Amser, danfonir signal i'r rhybuddwyr a garir gan yr ymladdwyr tân rhan amser yn cyfarwyddo iddynt ymbresenoli ar gyfer dyletswydd ar unwaith.
Danfonir cyfeiriad y digwyddiad i beiriant argraffu'r Orsaf Dân, ffôn symudol swyddogion ac yn cael ei arddangos yn awtomatig ar sgriniau cyfrifiaduron data i gabiau mewn cerbydau tân yn awtomatig.
Hefyd bydd yr Ystafell Rheoli Tân yn derbyn galwadau brys o'r Heddlu a'r Gwasanaeth Ambiwlans, o aelodau'r cyhoedd yn mynd yn syth i Orsafoedd Tân i adrodd am dân a thrwy larymau tân awtomatig.
Bydd y cerbydau sydd yn cael eu danfon i'r digwyddiad yn defnyddio y radio yn y cerbyd i roi gwybod i'r Ystafell Reoli am enw'r Swyddog â Gofal, faint o aelodau criw sydd yn y cerbyd, a chyfeiriad y digwyddiad.
Bydd staff yr Ystafell Reoli'n monitro'r digwyddiad trwy negeseuon radio, ac yn ymateb i unrhyw ofynion a wnaethpwyd.
Gall y gofynion yma gynnwys cerbydau ychwanegol, gwasanaethau brys eraill i fynychu'r digwyddiad, dalwyr allweddi, cwmnïau gwasanaethau neu bersonél eraill.
Weithiau, derbynnir gofynion am wybodaeth gemegol. Mae'r wybodaeth yma'n cael ei darparu o'r Ystafell Reoli gan ddefnyddio data-bas arbennigol.
Mae gweithredwyr yr Ystafell Reoli'n delio â'r gofynion i gyd, hyd yn oed os ydynt yn delio â nifer fawr o ddigwyddiadau eraill ar y pryd.
Yn ogystal â delio â galwadau brys, mae staff yr Ystafell Reoli yn gyfrifol hefyd am gadw a chynnal cofnodion ar gyfrifiadur, gwaith gweinyddol, hyfforddi, ystadegau a nifer o ddyletswyddau eraill sydd yn helpu gweithredu Ystafell Reoli argyfwng yn effeithiol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n gweithredu tair sianel radio yn y cerbydau (prif sianel, sianel eilaidd a sianel data). Gall pob swyddog a cherbyd sydd yn mynychu digwyddiadau roi gwybod i'r Ystafell Reoli lle ydynt a beth maent yn ei wneud.
Mae pob gofyn am gymorth ychwanegol yn cael ei fonitro gan yr Ystafell Reoli, er enghraifft gofynion am ragor o gerbydau, criwiau ychwanegol, offer arbennig ac ati. Mae hyn yn galluogi i'r Ystafell Reoli gael trosolwg gyflawn o'r adnoddau sydd ar gael yn Ne Cymru, a'r siroedd cyfagos, ar unrhyw amser.