Uned arddangos gweledol sgrîn-gyfwrdd sydd yn integreiddio technoleg gwybodaeth â chyfathrebiadau, radio a data byddino.
Mae'r System Cynnyddu Gwybodaeth am Alwadau Brys hon yn galluogu arddangos manylion y galwr(enw, cyfeiriad, rhif ffôn) ar y sgrîn DOPRA. Mae hyn yn cynorthwyo'r Gweithredydd Rheoli Tân gan gydnabod lleoliad y galwr - a fydd yn torri i lawr ar yr amser a gymerir i drin â galwad, o bosib - ac yn helpu gyda'r mentrau herio galwadau.
Mae EISEC yn rhyngweithio â'r system fyddino VISION sydd yn caniatáu i'r Gweithredydd ddewis cyfeiriad y galwr fel lleoliad i'r digwyddiad. Bydd y system yn cyfatebu cyfeiriad y galwr â chyfeiriad a gynhelir yn nata-bas Vision, ac yn arddangos y cyfeiriad ar y map electronig gyda un clic o'r lygoden.
Os bydd rhywun yn ffonio ar ffôn symudol, bydd EISEC yn triongli lleoliad y galwr trwy ddefnyddio cellau ffôn symudol. Pasir y wybodaeth yma ymlaen i’r Ystafell Reoli Tân yn electronig fel cyfeirnod map 12 rhif. Mae Vision yn casglu'r wybodaeth hon ac yn arddangos map wedi'i rannu i leoliad posib y galwr. Hefyd, arddangosir canran o gywirdeb er mwyn i'r gweithredydd benderfynu ar leoliad y galwr.
Mae system fyddino Vision yn unigryw yng Nghymru. Mae Vision yn cyfuno technoleg mapio aml-lefelog â rhestr o fanylion am adeiladau a system olrhain (AVLS - system lleoli cerbydau'n awtomatig).
Mae Vision yn caniatáu i’r gweithredydd i ddod o hyd i'ch cyfeiriad gan ddefnyddio eich côd post, ac i arddangos eich adeilad ar y map.
Mae Vision yn caniatáu i’r gweithredwyr drosglwyddo gwybodaeth hanfodol i derfynellau data symudol yng nghabau blaen injans tân. Unwaith bod cyfeiriad wedi'i leoli ar fapiau Vision, anfonir y manylion i DDS (derfynell data symudol) y cerbyd tân. Wedyn, mae'r cerbyd yn defnyddio'r mapiau electronig ar y DDS i ddod o hyd i'r ffordd orau i'r digwyddiad. Wrth i'r cerbyd tân symud, mae'r map ar y DDS yn symud ar yr un pryd, yn arddangos safle'r cerbyd wrth iddo nesáu at y digwyddiad.
Mae'r cyfuniad o dechnoleg yma'n golygu bod gweithredwyr yr Ystafell Reoli ac ymladdwyr tân yn derbyn gwybodaeth yn syth. Bydd y wybodaeth yma'n eu helpu gwneud penderfyniadau a gweithredu'n gyflym ac yn effeithlon, gan sicrhau fod y cyhoedd yn derbyn yr ymateb cyflymaf posib i unryw ddigwyddiad. Mae Vision yn cydnabod y cerbyd agosaf i fynychu'r digwyddiad, sydd yn arbed amser ymateb pwysig ac, yn y pen draw, yn achub bywydau.
Trwy'i gallu i olrheinio a lleoli cerbydau tân, mae gan weithredwyr rheoli tân ddarlun clir o weithgareddau gweithredol ac angen ar draws ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae Vision, ac EISEC, gyda'i gilydd yn lleoli galwyr yn union o fewn ardal o 100 medr. Hefyd, mae Vision yn olrheinio rhifau ffôn sydd yn helpu gweithredwyr i gydnabod galwyr ffug dyfalbarhaol. Mae'r technoleg mapio yn cyfuno ag EISEC i gydnabod lleoliad y galwr, ac yn arddangos y wybodaeth hon i'r gweithredydd. Wedyn, caiff y gweithredydd weld lleoliad y galwr a lleoliad y digwyddiad ar yr un sgrîn tra eu bod yn trafod y galwad brys.
System Mapio Gorchmynion sydd yn darparu data daearyddol a mapiau aml-ddefnyddwyr.