Herio Galwadau 

Ers 1999, mae Ymladdwr Tân / Ymladdwraig Dân Rheoli yn Ne Cymru wedi bod yn herio pobl maent yn amau'n gwneud galwadau ffug. Gan ddefnyddio nifer o eiriau ac ymadroddion allweddol wrth gwestiynu'r galwr, mae'r Ymladdwr Tân / Ymladdwraig Dân Rheoli'n gallu cadarnhau'n gyflym ac yn aml os ydy'r galwad yn faleisus neu ddim.

Mae'r gweithdrefn yma'n lleihau'n sylweddol y nifer o weithiau mae adnoddau'n cael eu danfon at alwadau ffug neu ddigwyddiadau amheus eraill. Yn 2007/08 heriwyd 423 o alwadau ffug yn llwyddiannus gan Weithredwyr Rheoli De Cymru; galwadau byddai wedi, fel arall, ailgyfeirio criwiau tân i ffwrdd o fynychu digwyddiadau argyfwng go iawn.

Mae'n costio tua £650 i'r economi lleol i fynychu galwad brys (seiliedig ar ddau gerbyd a dau griw a fydd yn ymateb i dân arferol mewn tŷ), mae'r galwadau yma sydd wedi'u herio wedi arbed mwy na £200,000 mewn un flwyddyn yn unig yn Ne Cymru.

Gydraeddoleb Ac Amrywiaeth

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 07/9/2011
SWFRS