24 Gorsaf Dân Lawn Amser, Rheolwr Ardal (Steve Martin) yw pennaeth y Tîm Rheoli Ymyrryd ac ef sy’n gyfrifol am sicrhau effeithlonrwydd gweithredol ac effeithiolrwydd y 24 Gorsaf Lawn Amser yn ardal y Gwasanaeth.
Prif swyddogaeth y Tîm Rheoli Ymyrryd yw rhoi cefnogaeth i Orsafoedd yn eu hymateb i alwadau argyfwng, ac wrth gyflwyno ystod o raglenni addysgol a mentrau lleihau perygl a ddyluniwyd i fodloni anghenion eu cymuned leol.
Cefnogir y Rheolwr Ardal gan ddau Reolwr Grŵp B yn goruchwylio Datblygu’r Gwasanaeth a Chyflwyno’r Gwasanaeth a thri Rheolwr Grŵp arall sy’n gweithredu fel man cyswllt cyntaf ar gyfer eu grŵp o Orsafoedd.