Mae diffoddwyr tân gweithredol wedi eu hyfforddi’n helaeth i ymateb i ystod eang o alwadau brys. Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau megis tanau, gwrthdrawiadau trafnidiaeth ar y ffyrdd, achubiadau arbennig, gollyngiadau cemegau a llifogydd.
Mae ymladdwyr tân hefyd yn treulio amser yn addysgu’r cyhoedd am ddiogelwch tân drwy roi sgyrsiau addysgol mewn ysgolion ac ymweld ag unigolion yn eu cartrefi.
Mae’r staff yn yr adran Dysgu a Datblygu yn gyfrifol am sicrhau bod darparu ar gyfer yr holl sgiliau sy’n angenrheidiol mewn Gwasanaeth Tân ac Achub modern. Mae hyn yn cynnwys cynnal y sgiliau a’r gweithgareddau presennol, yn rhai ymarferol a rheoli.
Ceir hyfforddiant ar nifer o ffurfiau a defnyddir amryw o ddulliau i gyflawni’r amcanion sydd wedi eu seilio ar y cysyniad bod y staff yn gymwys i wneud eu swyddi.
Darparu HyfforddiantGary Davies (Pennaeth Ysgolion)Ffôn: 01443 232940
Datblygiad PersonolTemp Group Manager Ffôn: 01443 232944
Useful Links