Uned Cefnogi Hyfforddiant 

Mae’r Uned Cefnogi Hyfforddiant yn darparu ystod amrywiol o wasanaethau i gefnogi gweithgareddau’r hyfforddwyr, mewn Dysgu a Datblygu a’r sefydliad fel ei gilydd. Mae’r tîm yn gweithredu oddi mewn i system rheoli ansawdd ac mae wedi ei ardystio i System Rheoli Ansawdd ISO 9001:2000 er mwyn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau a chyhoeddiadau hyfforddiant yn cael eu cynhyrchu at y safonau uchaf.

Y rôl allweddol sydd ganddi yw ymchwilio, cynhyrchu a chyflenwi deunyddiau hyfforddi ansawdd uchel arloesol i gefnogi’r gweithgareddau hyfforddi a ddarperir drwy Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i bersonél mewn lifrai a heb lifrai.

Mae’r tîm yn nodi anghenion hyfforddi, cefnogi mentrau hyfforddi, darparu gwybodaeth dechnegol ac mae ganddo’r prif gyfrifoldeb dros y Rhaglen Datblygu Ymladdwyr Tân ynghyd â PDRpro, y rhaglen hyfforddiant parhaus a’r system recordio electronig ar gyfer hyfforddi sy’n gysylltiedig â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Mapiau Rôl.

Mae’r uned wedi bod ar flaen y gad wrth ddatblygu’n arloesol a grymusedig y cysyniad o ddysgu amlgyfrwng drwy ddatblygu, cynhyrchu a dosbarthu hyfforddiant amlgyfrwng i bob un o’r hanner cant o orsafoedd tân, rheolaeth tân a’r cyfarwyddiaethau yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae parch mawr ati ac enw da iddi ledled y DU am ei datblygiadau a’i gyriant yn y ddau faes.

Mae buddsoddi arwyddocaol yn y blynyddoedd diwethaf wedi caniatáu i’n sefydliad symud ymlaen yn gyflym gyda’r fenter amlgyfrwng. Ychydig flynyddoedd yn ôl rhoddwyd offer amlgyfrwng i’r holl orsafoedd ac adrannau er mwyn darparu’r math hwn o hyfforddiant i bersonél. Ers hynny, mae pymtheg o becynnau hyfforddi wedi eu darparu i ychwanegu at y deunyddiau hyfforddi sydd eisoes wedi eu cyhoeddi ynghyd â’r Rhaglen Datblygu Ymladdwyr Tân, y rhaglen hyfforddiant parhaus er mwyn cynnal medrusrwydd.

Mae pob system bellach wedi ei rhwydweithio i ganiatáu mynediad rhwydd at y fewnrwyd a helpu’r cyfleuster i ddarparu pecynnau hyfforddi cyfredol a newydd i bersonél drwy weinyddydd canolog. Bydd hyn yn rhoi’r fantais ychwanegol o ddarparu Canolfan Adnoddau Dysgu a fydd ar gael i bob gweithiwr ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu.

                 Manylion Cyswllt

 

Cyfeiriad
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

Ffôn:  01443 232000
Ffacs: 01443 232180
E-Bost:
GTDC@decymru-tan.gov.uk

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 20/9/2011
SWFRS