Mae’r adran hon yn ymdrin â gweithgareddau hyfforddiant craidd y Gwasanaeth sy’n cynnwys:
Mae’r adran darparu hyfforddiant yn gyfrifol am ddarparu’r holl hyfforddiant rôl benodol i staff gweithredol.
Hyfforddiant CychwynnolMae’r tîm Hyfforddiant Cychwynnol yn datblygu a darparu hyfforddiant i ymladdwyr tân wrth gefn ac amser llawn. Mae’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol wedi ei hachredu gan BTEC ac yn cynnig hyfforddiant sy’n cwrdd â modiwlau datblygu’r ymladdwyr tân a safonau galwedigaethol cenedlaethol – IPDS. Cynigir yr hyfforddiant hwn naill ai’n fodiwlaidd neu fel cwrs 12 wythnos.
Hyfforddiant Offer AnadluMae’r tîm Offer Anadlu yn cynorthwyo i sicrhau bod holl wisgwyr offer anadlu'r gwasanaeth yn cael yr hyfforddiant priodol yn ystod eu cyfnod cychwynnol o 10 diwrnod neu yn ystod ailgymhwyso ar ôl dwy flynedd. Ar ben hyn, cynhelir seminarau cyson gyda chyfarwyddwr y rhwydwaith i sicrhau eu bod yn gwybod y diweddaraf ynghylch protocolau a gweithdrefnau.
Hyfforddiant Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd I gynorthwyo i leihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd De Cymru mae’r adran yn cyflwyno hyfforddiant tri cham yn y ganolfan (cychwynnol, technegydd a hyfforddwr). Mae’r rhain yn sicrhau bod pob ymladdwr tân yn cyfrannu at y fenter hon yn ystod y cyfnod ymyrrol ar ddigwyddiadau i sicrhau bod y personél sydd wedi hyfforddi orau â’r offer gorau ar yr adeg iawn.
Achub â RhaffMae’r tair gorsaf ‘Achub â Rhaff’ (Malpas, Y Barri a Glyn Ebwy) yn cael eu harchwilio bob chwe mis gan yr adran hyfforddi i sicrhau eu bod yn cynnal medrusrwydd. Ar ben hyn, cynigir cyrsiau cychwynnol o bythefnos yn y gorsafoedd hyn i staff newydd.
Achub DŵrMae’r cam cyntaf ar hyfforddiant achub dŵr, “Ymwybyddiaeth o Ddŵr”, wedi ei gynnal ar draws y sefydliad. Bydd y cam nesaf yn cynnwys defnyddio offer yn y mwd, defnyddio cychod a rhaffau dros ddŵr.
Achub/Ymwybyddiaeth Anifeiliaid MawrMae Porth Caerdydd wedi ei chydnabod yn ganolfan ragoriaeth mewn perthynas â hyfforddiant achub anifeiliaid mawr. Cyflwynir cam cyntaf yr hyfforddiant achub anifeiliaid mawr mewn partneriaeth â Choleg Amaethyddol Brynbuga.
Hyfforddiant GyrwyrMae’r tîm Gyrru yn cynorthwyo’r sefydliad i sicrhau bod holl yrwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub yn gymwys i yrru a gweithredu cerbydau’r Gwasanaeth. Maent yn gyfrifol am gyflwyno seminarau wedi eu hanelu at godi ymwybyddiaeth o faterion gyrru penodol fel gyrru economaidd i yrwyr mewn lifrai a heb lifrai.
TrafnidiaethMae’r tîm darparu hyfforddiant yn cyfrannu at ddatblygu datrysiadau hyfforddi i ymladd tân ar longau, rheilffyrdd ac awyrennau. Mae dau fodiwl hyfforddi wedi eu datblygu’n ddiweddar i gynnig hyfforddiant theori ac ymarferol i reolwyr goruchwylio allweddol mewn digwyddiadau sy’n cynnwys llongau ac awyrennau.
Dimensiwn NewyddMae’r adran Dimensiwn Newydd yn hwyluso hyfforddiant Gwisg Gwarchod Anadlu Personol, hyfforddiant wagen fforch godi a hyfforddiant gyrwyr ar bob cerbyd Dimensiwn Newydd a chwilio ac achub trefol.
Tân GwylltMaes gwaith cymharol newydd i’r tîm darparu sy’n cefnogi’r sefydliad wrth ddatblygu hyfforddiant ‘Tân Gwyllt’ i bob lefel y tîm rheoli gweithredol.
Darparu HyfforddiantGary Davies (Pennaeth Ysgolion) Ffôn: 01443 232940
Datblygiad PersonolTemp Group Manager Ffôn: 01443 232944