Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ac felly yn defnyddio nifer fawr o wahanol fathau o gerbydau i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i ddatblygu’r dewis o gerbydau, dulliau a medrau trawsgludo i gynnal ymateb gweithredol i argyfyngau. Byddwn yn parhau i ymchwilio i a datblygu offer tân ac achub i greu cerbydau ergonomig modern wedi’u cynllunio ar gyfer gweithlu amrywiol.
Bydd cerbydau ac offer ymdrin â thân ac argyfyngau mewn adeiladau tal, achub anifeiliaid, digwyddiadau ar y ffyrdd, amddiffyn yr amgylchedd, achub o’r dwr, llifogydd a gorchymyn a rheoli yn cael eu datblygu i sicrhau bod ein cerbydau yn cyd-fynd â’r risgiau deinamig a chyfnewidiol a wynebir mewn digwyddiadau lle bo angen gweithredu.
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LLANTRISANTCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000Ffacs: 01443 232180E-Bost: GTDC@decymru-tan.gov.uk