Cerbydau Cledrau Ffordd 

Cerbydau Cledrau Ffordd

Mae’r cerbydau hyn yn unedau arbenigol iawn wedi’u dylunio i’w gweithredu ar y ffordd ac ar gledrau ar gyfer digwyddiadau achub ac argyfwng ar y rhwydwaith cledrau.  Mae’r ddau gerbyd wedi’u gosod â systemau ‘rheilio’ sy’n caniatáu iddyn nhw allu gweithredu’n llawn ar y rheilffordd o dan gyflyrau rheoledig ac mewn cydweithrediad llawn â Network Rail; maen nhw’n gallu cael mynediad at dwnnel Hafren os bydd rhywbeth yn digwydd. 

Mae dyluniadau’r cerbydau’n hollol wahanol i fodloni dibenion penodol ac wedi’u gosod ag ystod helaeth o offer achub.  Mae’r cerbydau wedi’u seilio ar Unimog 4X4 a Volvo FL6 yn ôl eu trefn. 

Oriel Cerbydau

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 07/9/2011
SWFRS