Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dechrau treial o gerbyd awyrol, technoleg uchel a reolir o bell o’r enw hofrennydd Microdrone. Mae’n gallu rhoi delweddau awyrol hanfodol i griwiau tân gweithredol i gynorthwyo wrth fynd i’r afael ag ystod eang o argyfyngau a chasglu deallusrwydd gweithredol cyn defnyddio adnoddau.
Mae gan y Microdrone bedair braich sy’n cludo rotorau a phâr o seiliau glanio. Mae wedi’i ddylunio i hofran uwchben digwyddiadau a thrawsyrru delweddau byw i gerbyd neu ystafell reoli.
Mae’r awyren sydd bron yn ddistaw ac yn pwyso’n llai na bag o siwgwr, yn esgyn yn fertigol a gellir ei ddefnyddio o fewn tair munud. Mae’r Microdrone yn gallu hedfan yn y rhan fwyaf o gyflyrau tywydd ac mae ganddo gyflymder uchaf o 15mph.
Mae’r Microdrone yn gallu cael ei osod ag amrywiaeth o gamerâu, sy’n caniatáu Comanderiaid Digwyddiadau i gael delweddau awyrol clir o ddigwyddiad a’r amgylchedd o’i gwmpas, gan gynorthwyo gyda’r penderfynu mewn digwyddiadau mawr a chymhleth. Mae ystod y camerâu mae’n addas ar eu cyfer yn cynnwys camera lluniau llonydd 12 megapicsel, fideo digidol diffiniad uchel, unedau delweddu thermol a golau isel.
Mae’r Microdrone yn cael ei bweru gan fatris ac mae ganddo amser hedfan o 20 munud ac ystod o 500 metr, mae’n gallu cael ei reoli naill ai â llaw neu ei weithredu ar awtopeilot i ddilyn llwybr hedfan wedi’i raglennu ymlaen llaw.
Mae angen ar system Microdrone dîm o ddau bersonél i’w weithredu, un yn rheoli’r drôn ei hun, tra bod yr ail weithredwr yn monitro’r swyddogaeth, y ddiagnosteg a’r delweddau a gyflenwir gan y Microdrone ar orsaf cyfrifiadur personol.
Caiff y Microdrone ei weithredu gan bersonél yn y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Gweithredu (OPDS). Rôl Cyfarwyddiaeth OPDS yw darparu deallusrwydd gweithredol, datblygiad gweithredol a thimau adolygu tactegol, cyfyngau sifil a rolau cynllunio brys, ac ystod eang o brosiectau arbennig eraill sy’n perthyn i ddatblygu tacteg ac offer.
Rhagwelir y bydd y Microdrone hefyd yn chwarae rhan werthfawr mewn lleihau cynnau tanau bwriadol. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer hyrwyddo diogelwch cymunedol yn ogystal â rhoi arf ataliol gweledol, proffil uchel i ddarpar gyneuwyr tanau, gyda’i liw gweladwy iawn. Caiff y Microdrone ei ddefnyddio pan fydd y Gwasanaeth yn cael lefelau uchel o danau glaswellt, coedwig a thir gwyllt anghysbell. Caiff y Microdrone ei ddefnyddio mewn ardaloedd hysbys o weithgarwch uchel er mwyn atal cynnau tanau bwriadol.
Bydd y Microdrone hefyd yn rhoi cymorth a chefnogaeth werthfawr i bersonél gweithredol mewn digwyddiadau lle y gellid ei ddefnyddio yn y meysydd canlynol;