Nod DAM yw darparu gallu i ddigwyddiad cenedlaethol mawr, yn cynnwys deunyddiau cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear neu ddeunyddiau peryglus gwirioneddol neu bosibl. Bydd y cyflwyno’n cynyddu gallu GTA, gwella diogelwch ymladdwyr tân a gwella’r gwasanaeth a gynigir i’r cyhoedd.
Mae cerbydau ac offer DAM wedi’u caffael ac mae hyfforddiant cychwynnol bron â gorffen. Bydd cyfanswm o 18 o gerbydau DAM ar gael yn weithredol mewn lleoliadau strategol ar draws Cymru a Lloegr. Mae pob tîm DAM yn cynnwys cyfartaledd o 12 o swyddogion deunyddiau peryglus, wedi’u hyfforddi i ddefnyddio’r holl set o offer. Byddan nhw’n cynnig gallu ymateb i feysydd allweddol ledled y wlad yn adegau cynnar iawn digwyddiadau deunyddiau cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear neu ddeunyddiau peryglus posibl neu wirioneddol. Mae’r cerbydau DAM wedi’u dylunio a’u hadeiladu’n benodol i fodloni gofynion Dimensiwn Newydd a GTA. Bydd pob cerbyd DAM yn cynnwys:
Mae’r cerbyd DAM wedi’i seilio ar fan sail olwynion hir â chefn uchel. Mae blaen y cerbyd yn gaban criw tri pherson, gyda systemau cyfathrebu a goleuadau cerbyd GTA modern, ac ataliaeth ychwanegol ar ffurf system ffôn lloeren Mae canol y cerbyd wedi’i adeiladu i ffurfio amgylchedd swyddfa, i ddarparu systemau cyfathrebu ychwanegol a chyfrifiadur i gynghorwyr DAM ar gyfer dadansoddi gwybodaeth sampl. Bydd y systemau cyfathrebu’n ataliol, er mwyn galluogi mynediad at gefnogaeth wyddonol i’r cynghorwyr DAM yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd rhagweladwy. Mae hyn yn hanfodol er mwyn hysbysu penderfyniadau gweithredol allweddol, gan gynnwys datblygu system ddiogel o waith ar gyfer y GTA ac asiantaethau eraill.
Mae cefn y cerbyd yn ffurfio ardal storio offer ar gyfer siwtiau nwyglos, offer anadlu, offer dadlygru a goleuadau ar olygfa. Y nod yw i’r cerbydau fod yn hunangynhaliol i raddau helaeth o ran offer. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu strwythur dadlygru ymladdwyr tân addasedig (MD4), ychydig yn llai o faint a phwysau na’r strwythur a ddefnyddir ar Unedau Ymateb i Ddigwyddiadau. Mae strwythur MD4 yn gallu cefnogi proses ddadlygru gweithredwyr yn ddiogel, yn gyson â gweithdrefnau a phrotocolau cenedlaethol.
Mae darganfyddiad, adnabyddiaeth a monitro sylweddau’n broses ddilyniannol. Bydd set o offer DAM yn darparu’r gallu i ddarganfod a dadansoddi ystod o gemegion a geir ar ffurfiau neu ystadau gwahanol, gan greu amrywiaeth o beryglon gwahanol. Mae’r amrywiaethau hyn yn creu heriau arwyddocaol wahanol sy’n effeithio ar benderfyniadau a chanlyniadau gweithrediadol. Defnyddir offer a phrosesau DAM i ddarganfod ac adnabod nwyon ac anweddau, solidau (gan gynnwys powdrau), hylifau, deunyddiau radiolegol a pheryglon biolegol. Hefyd mae gan yr offer y potensial i asesu crynodiad anweddau neu nwyon yn yr aer. I gefnogi’r broses hon, darparwyd offer ychwanegol i fonitro’r peryglon gweithredol ac amgylcheddol y deuir ar eu traws yn ystod proses DAM, fel y gall y gweithredwyr gynnal system waith ddiogel ac effeithiol.
Dyluniwyd offer DAM i’r cynghorwr DAM a’r tîm cefnogol fynd ag ef i mewn i’r ardal beryglus wrth wisgo offer amddiffynnol personol (PPE) priodol, offer amddiffynnol anadlu (RPE) ac offer monitro. Bydd y wybodaeth a geir o ddadansoddiad ac adnabyddiaeth y sylwedd yn cael ei defnyddio i gadarnhau: