Mae’r Argocat Avenger yn gerbyd 8x8 sy’n cael ei bweru gan injan betrol 2 silindr 747cc.
Gall pedwar Ymladdwr Tân eistedd ynddo ac maent wedi’u diogelu gan wregysau diogelwch a ffrâm sy’n eu diogelu’n llawn petai’r cerbyd yn rholio drosodd. Mae’r cerbyd wedi’i gynllunio ar gyfer ei ddefnyddio oddi ar y ffyrdd mewn ardaloedd anghysbell lle bydd yn ymdopi’n hawdd gyda mwd a graddiant serth.
Gall yr argocat lusgo trelar oddi ar y ffordd bychan sy’n cario cymylu niwl tân, olwyn piben 60 medr a thanc dŵr 200 litr.
Bydd y cyflenwad dŵr yn ddigon ar gyfer tua 15 munud o ddefnydd parhaus. Mae’r uned cymylu tân yn cael ei phweru gan injan betrol Honda sy’n annibynnol i injan yr argocat, sy’n galluogi gyrru a defnyddio’r uned cymylu tân ar yr un amser.
Mae’n cyrraedd digwyddiadau ar drelar ffordd sy’n cael ei lusgo gan Mercedes sprinter 4x4 y Gwasanaeth Tân.