Mae ymladdwyr tân gweithredol wedi cael hyfforddiant helaeth i ymateb i ystod eang o alwadau argyfwng, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, achub arbennig, gollyngiadau cemegol a llifogydd. Mae ymladdwyr tân hefyd yn treulio amser yn addysgu’r cyhoedd am ddiogelwch tân trwy roi anerchiadau addysgol mewn ysgolion ac ymweld ag unigolion yn eu cartrefi.
19 Orsafoedd amser llawn, lle mae Ymladdwyr Tân amser llawn yn cynnig gofal 24 awr mewn pedair ‘Gwylfa’ ar wahân.
5 Gorsaf sy’n cael eu criwio yn ystod y dydd, lle mae Ymladdwyr Tân amser llawn yn cynnig gofal gydol dydd mewn dwy ‘Wylfa’ ar wahân ac ar gael ar beiriannau galw radio ar gyfer gofal yn ystod y nos.
26 Gorsaf Rhan Amser, lle mae Ymladdwyr Tân Rhan Amser yn cynnig gofal 24 awr. Mae gan yr Ymladdwyr Tân hyn swyddi eraill ynghyd â gweithio i’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Cânt eu galw i argyfwng gan beiriannau galw radio ac maent yn gwasanaethu’r gymuned y maent yn byw ac yn gweithio ynddi.