Paul Thomas yw eich Caplan, mae wedi bod yn briod i’w wraig Jan ers 1972, mae ganddo ddau o blant sydd wedi tyfu ac mae’n dad-cu i tri o blant. Roedd Paul yn Ymladdwr Tân gweithredol am bron i bedair blynedd ar ddeg ar hugain, dechreuodd ar ei yrfa gyda Brigâd Dân Dinas Lerpwl ym 1968. Trosglwyddodd draw i Frigâd Sir Fflint/Clwyd yng Ngogledd Cymru cyn gorffen ei wasanaeth gweithredol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn 2002.
Cwblhaodd Paul gwrs hyfforddi Diwinyddol tra’r oedd dal yn y gwasanaeth ac yn cydarwain eglwys yn ardal Caerdydd ar yr un pryd. Wedi ymddeol, aeth i mewn i’r weinidogaeth yn llawn amser, gan barhau gyda’i waith yn ardal Caerdydd ac yna yng Nghwm Rhondda. Ddau fis wedi ymddeol o’r Gwasanaeth Tân, cafodd wahoddiad gan y Prif swyddog Tân i ddod yn Gaplan i’r Gwasanaeth.
Ar hyn o bryd, mae Paul yn Nghadeirydd Cymdeithas Genedlaethol Caplaniaid Gwasanaethau Tân ac Achub Prydain Fawr.
Mae’n weithgar iawn gyda Chenhadaeth y weinidogaeth yn Uganda ac mae wedi llwyddo i adeiladu ysgol yn y gwylltir, gydag ystafelloedd dosbarth o’r enw Cowbridge a Pontyclun - ar ôl y Gorsafoedd Tân a helpodd i godi arian er mwyn eu hadeiladu.
Gweithiodd gyda chyn Arlywydd yr U.D.A. Jimmy Carter a’i wraig ar Brosiect Gwaith ‘Habitat for Humanity’ yn Durban, De Affrica, yn adeiladu cartrefi ar gyfer y digartref. Gweithiodd hefyd gydag Elusen ‘Operation Christmas Child’ yn Albania.
Gweithiodd Paul hefyd gyda’r Groes Goch; ef ail lansiodd yr Uned Cymorth Tân ac Argyfwng a hefyd sefydlodd pum Tîm Ymateb i Argyfwng, sy’n cynorthwyo adeg argyfyngau mawr ar draws Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Ei brosiect diweddaraf oedd adeiladu ac agor uned achub babanod/plant o’r enw Tŷ Cariad yn Uganda ac ef a sefydlodd yr elusen gofrestredig ‘Tŷ Cariad Affrica’ yn y DU, mae’r gwaith yn parhau.
Mae Caplaniaeth wedi bod yn y Gwasanaeth ers amser maith, mae’r cofnod cyntaf ohono ym 1854, gyda Brigâd Dân Llundain. Gyda chymorth Cenhadaeth Dinas Llundain, gwnaeth y Prif Swyddog ar y pryd, James Braidwood, gais am rywun i fod ar gael er mwyn gofalu am les ysbrydol ei ymladdwyr tân. O’r adeg hynny, mae Prif Swyddogion Tân wedi bod yn awyddus i sefydlu’r math hwn o gymorth o fewn eu Gwasanaethau.
Mae Caplan Gwasanaeth Tân ac Achub yn wirfoddolwr di-dâl ac mae ynghlwm â nifer o weithgareddau gweinidogaethol a bugeiliol eraill tu allan i’r Gwasanaeth. Ar unrhyw adeg, gellir galw ar y Caplan i ymateb i gais arbennig am wasanaeth.
Mae dyletswyddau Caplan yn amrywio’n fawr, o ymweld â gorsafoedd a swyddfeydd, i fynychu tanau neu ddigwyddiadau mawr (yn enwedig os oes bywyd wedi’i golli), Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd a nifer o argyfyngau eraill.
Bydd y Caplan yn ceisio ymweld â holl orsafoedd a swyddfeydd y Gwasanaeth, cymaint ag sy’n bosibl. Er hynny, oherwydd nifer y gorsafoedd a maint ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fe fydd hyn yn cymryd cryn dipyn o amser.
Er mwyn i’r Caplan ddod i adnabod y staff, a’r staff ddod i adnabod y Caplan, does dim ffordd well nag ymweld. Mae cael ei weld yn rheolaidd o amgylch y lle – yn yr ystafell wylfa, y maes hyfforddiant, swyddfeydd a’r ffreutur yn sicrhau pan fydd angen y Caplan i roi gwasanaeth arbennig, bydd pobl yn gwybod gyda phwy y byddant yn delio.
Bwriad y cyswllt a’r sgyrsiau anffurfiol niferus yw adeiladu cysylltiadau a’i gwneud hi’n hawdd i bobl sydd eisiau mynd at y Caplan ynghylch rhywbeth sy’n eu poeni i wneud hynny.
Bwriad pob Caplan yw bod ar gael i holl staff y Gwasanaeth gan gynnwys aelodau staff di-lifrai.
Mae’r Caplan yn rhan o’r system cymorth personol, ac nid yw’n honni bod ganddo’r ateb i wella unrhyw drawma. Adnodd sydd ar gael yw’r Caplan, mae modd ei ddefnyddio a dylid gwneud hynny.
Ar adegau efallai bydd rywun eisiau i’r Caplan weddïo gyda hwy. Ar adegau eraill bydd rhai o staff y Gwasanaeth Tân yn cael cysur a chymorth o wybod eu bod wedi’u cynnwys yng ngweddïau beunyddiol y Caplan.
Mae’r Caplan ar gael i ymweld â staff y Gwasanaeth a allai fod yn yr ysbyty, neu yn delio ag argyfwng yn y cartref. O dro i dro, gofynnir i Gaplaniaid berfformio gwasanaethau gweinidogaethol a bugeiliol eraill ar gyfer aelodau’r gwasanaeth, mae hyn yn hollol naturiol.
O ran achlysur fel priodas, bedydd, cysegriad ac angladd, mae Caplaniaid bob tro’n gofalu eu bod ond yn ymgymryd â’r gwasanaethau hyn wedi ymgynghori priodol gyda gweinidogion neu offeiriaid y plwyf, gan ystyried eu hawliau a’u braint hwy cyn cadarnhau unrhyw drefniadau.
Wedi dweud hyn, os oes gennych broblem neu gwestiwn yn ymwneud â phriodas, bedydd, cysegriad neu angladd, yna ar bob cyfrif siaradwch gyda’r Caplan a fydd yn gallu eich cynghori ar y mater. Mae gweinidogion neu offeiriaid plwyf gan amlaf yn ddigon hapus fod Caplan y Gwasanaeth ynghlwm â phethau, ond mae’n bwysig ymgynghori â hwy cyn gwneud trefniadau.
Dywedir yn aml fod y Caplan “yn y Gwasanaeth ond nid ohono”. Yn syml, mae hynny’n golygu er bod y Caplan i’w weld o amgylch yr orsaf, yn y ffreutur, yn y swyddfeydd a ble bynnag arall (ac i’r graddau hynny ynddo), mae’r Caplan yn annibynnol o strwythur rheng y Gwasanaeth (ac felly nid ohono).
Yn naturiol, mae Caplaniaid yn tueddu i uniaethu gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub penodol y maent yn gysylltiedig ag ef ac adeg digwyddiadau swyddogol maent i’w gweld wedi uniaethu’n agos iawn gydag ef, ond fel Caplan maent yn cadw eu hannibyniaeth drwy’r adeg.
Dyma sut y dylai fod; mae’r Caplan ar gael i bawb, beth bynnag eu rheng. Ers amser maith, mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi sylweddoli gwerth rôl o’r fath. Mae’r Caplan yna i fod yn ffrind i bawb, rhywun sy’n barod i wrando, i gefnogi pobl ar bob lefel, ymhob math o amgylchiadau. Dyna pam y mae’n bwysig fod y Caplan yn aros tu allan i’r strwythur rheng ffurfiol.
Er bod Caplan yn cael ei apwyntio’n swyddogol i Wasanaeth Tân ac Achub, mae teimlad fod statws y Caplan yn fwy tebyg i westai sydd wedi cael ei wahodd. Ni fyddai’r Caplaniaid am i bethau fod yn wahanol mewn unrhyw ffordd.
Pan fydd Caplan yn ymweld â gorsaf neu swyddfa, fe allai pobl ddychmygu fod ei ddiddordeb pennaf yn y bobl o’i enwad ef. Bydd rhai pobl yn eithaf gwyliadwrus, gan nad ydynt yn arfer mynd i fan addoli neu ddim yn grefyddol iawn. Maen nhw’n meddwl bydd y Caplan yn ‘gwthio crefydd i lawr eu gyddfau’ os na fyddant y ofalus! Gallai dim byd fod yn bellach o’r gwirionedd.
Mae’r Caplan yna ar gyfer pawb heb eithriad ac fe allai fod yn perthyn i nifer o wahanol enwadau neu gred. Ond, fel Caplan, bydd yn aros yn ddiduedd drwy’r adeg.
Oherwydd ein bod yn byw mewn cymdeithas aml-ffydd mae’r Caplan yn hollol ymwybodol bod pobl yn perthyn i draddodiadau crefyddol eraill, er enghraifft Iddewiaeth ac Islam, ac mae’n sensitif o hynny. Mae Caplaniaid yn bodoli oherwydd eu cred fod pobl yn bwysig pwy bynnag ydynt, beth bynnag ydynt neu beth bynnag eu cred arbennig, os ydynt yn aelodau’r Eglwys ai peidio.
Mae’r Caplan yna i rannu pryderon, diddordebau, problemau a chyfleoedd staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yn eu bywydau gwaith. Yn anad dim, mae’r Caplan yna i wneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd a lles pawb.
Gan eu bod eisoes yn gweithredu yn y weinidogaeth, mae Caplaniaid y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymwybodol fod terfynau i’r cymorth y gall unrhyw un ohonynt ei roi mewn rhai sefyllfaoedd. Mae bron pob Caplan yn gweithredu rhyw fath o system atgyfeirio lle bydd pobl sy’n dod atynt hwy am gymorth yn cael eu hatgyfeirio at bobl eraill mwy cymwys pan fydd angen.
Bydd atgyfeiriadau o’r fath ond yn digwydd gyda chaniatâd llawn y sawl hwnnw. Fel maent yn dweud, nid arwydd o fethiant yw atgyfeirio rhywun at drydydd parti, ond gras! Ni ellir pwysleisio’n fwy bod sgyrsiau gyda’r Caplan yn hollol gyfrinachol, a bydd atgyfeiriadau at bobl eraill ond yn digwydd gyda chytundeb pawb ynghlwm.
Mae Caplaniaid Gwasanaethau Tân ac Achub yn aml yn dadlau’n hir ar y mater hwn, am y rheswm fod y gair ‘cwnsela’ i nifer o bobl yn swnio fel mynd at rywun am ‘gyngor’ - neu’n waeth byth, cael eich anfon at rywun am gyngor! (Neu’r hunllef fwyaf, rhywun yn eich corneli i roi cyngor i chi os ydych chi eisiau neu beidio!).
Tra fo’n rhaid i Gaplaniaid osgoi unrhyw ymgais i orfodi barn grefyddol ar staff y Gwasanaeth Tân ac Achub, safiad hollol agored y Caplan yw’r Efengyl Gristnogol sy’n ysbrydoli cred yng ngwerth pob bod dynol.
Mae cwnsela ysbrydol yr un mor anghyfeiriol ag unrhyw fath arall o gwnsela. Trwy ‘ysbrydol’ golygwn yr hyn sy’n bersonol, yn perthyn i ddyfnderoedd bod dynol, a’r unig air sydd gennym amdano yw ‘ysbryd’. Mae’n bwysig bod y Caplan yn cadw at gyfrinachedd llwyr.
Mae pob Ymladdwr Tân yn ymwybodol y gallent ar unrhyw adeg o unrhyw ddydd orfod mynd i ganol sefyllfa eithriadol o beryglus a gofidus. Mae’r ddelwedd macho o’r Ymladdwr Tân sy’n gyfarwydd â phob math o sefyllfa argyfwng, pa bynnag mor hunllefus, yn un y mae’r rhan fwyaf o staff y Gwasanaeth yn cydnabod fel myth a greodd y cyfryngau. Mewn gwirionedd, bodau dynol ydym ni oll, ac fe all sefyllfaoedd fel y rhain effeithio arnom ni ar lefel ddyfnaf ein bodolaeth. Oherwydd bod y sefyllfaoedd yma yn rhan o’r rheswm dros fodolaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub, mae’n rhaid i staff y Gwasanaeth yn arbennig ddarganfod ffyrdd o ddelio â hwy.
Mae’r Caplan yna fel rhan o’r system cymorth personol. Nid yw’r Caplan yn honni bod ganddo’r ateb i wella trawma, ond fe fyddai’n honni mai adnodd ydyw a dylid gwneud defnydd ohono.
Petai gwasanaethau’r Caplan yn gallu bod o werth i chi ar unrhyw adeg, yna mae’r Caplan yn barod amdanoch. Bydd y cyfan yn cael ei gadw’n hollol gyfrinachol, bob tro. Does dim hyd yn oed angen i unrhyw un wybod eich bod erioed wedi siarad â’r Caplan. Sail yr holl gwnsela mae’r Caplan yn cynnig yw cyfeillgarwch a gwrando, â’r ddau o’r rhain yn gofyn am sensitifrwydd a pharch tuag at y person arall, ac wedi’u gwreiddio yn yr Efengyl Gristnogol.
E-bost: p-thomas@decymru-tan.gov.ukneu thomas.tribe@tesco.netFfon: 01239 654981 neu 07812 126437
Cysylltiadau Defnyddiol