Reidio Allan, Reidio’n Gywir 

Ride Out Ride RightFel sefydliad, mae GTADC yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch ar y ffyrdd. Diogelwch ar y ffyrdd yw un o’n prif flaenoriaethau ac rydym am sicrhau ein bod yn lleihau’r peryglon mae gyrwyr beiciau modur yn eu hwynebu ar hyd ffyrdd Cymru. Dyma’r rheswm y mae GTADC yn lansio rhaglen “Reidio Allan, Reidio’n Gywir”.

Mae “Reidio Allan, Reidio’n Gywir” yn brosiect sy’n cael ei arwain gan gudd-wybodaeth, mae ystadegau wedi’u hystyried ac mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i dargedu gyrwyr rhwng 30 a 50 mlwydd oed sy’n mynd yn ôl i yrru beic modur ar ôl cyfnod hir o beidio â gwneud, sy’n golygu bod eu sgiliau gyrru wedi dirywio.

Gwnaeth Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru lawer o ymchwil marchnad ynghylch y beic a fyddai’n denu diddordeb, a’r beic a gafodd y canlyniad o fod a’r ffactor WAW er mwyn goresgyn rhwystrau a galluogi cysylltiad oedd y Ducati 1198.

Ein bwriad yw annog gyrwyr i wella eu sgiliau gyrru, ond ni fyddwn yn rhoi hyfforddiant nac yn cynnal asesiadau mewn unrhyw amgylchiadau. Byddwn yn rhoi sylwadau ar gais a byddwn yn codi ymwybyddiaeth gyrwyr am beryglon drwy nodi’r peryglon ar hyd y llwybrau sydd wedi’u cynllunio o flaen llawn. Y syniad sy’n sail i’r rhaglen yw annog gyrwyr i fynd ar raglenni Bike Safe, Rospa ac IAM.

Ar hyn o bryd mae tua:

  • 80,000 o Feiciau Modur wedi’u cofrestru yng Nghymru
  • Mae beicwyr modur 30 gwaith yn fwy tebygol o farw ar y ffyrdd o’i gymharu â gyrwyr ceir
  • Ar gyfartaledd mae 28 beiciwr modur yn marw ar ffyrdd Cymru pob blwyddyn

Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn ymwybodol o fwriad y cynllun ac yn rhoi cefnogaeth lawn i “Reidio Allan, Reidio’n Gywir”.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 14/9/2011
SWFRS