Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymladd tanau glaswellt ac yn rhybuddio y bydd pobl sy’n cynnau tanau glaswellt yn fwriadol yn cael eu herlyn  

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymladd tanau glaswellt ac yn rhybuddio y bydd pobl sy’n cynnau tanau glaswellt yn fwriadol yn cael eu herlyn

Mae Ymladdwyr Tân yn Ne Cymru wedi cael eu hanfon i ymladd nifer fawr o danau glaswellt yng nghymoedd De Cymru dros y diwrnodau diwethaf.

Y tanau hyn yw’r diweddaraf yn ystod cyfnod prysur o ddigwyddiadau tebyg oherwydd y tywydd mwy cynnes a mwy sych, credir bod nifer o’r tanau wedi’u cychwyn yn fwriadol.

Mae Martin Henderson, Pennaeth Lleihau Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn condemnio cynnau tanau glaswellt bwriadol, dywedodd:

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydweithio gyda’r Heddlu a’i bartneriaid eraill i ddal y bobl sy’n cynnau tanau glaswellt yn fwriadol. Mae angen i unrhyw un sy’n meddwl am gynnau tanau mynydd yn fwriadol sylweddoli y byddwn yn gwneud popeth posib er mwyn sicrhau ein bod yn eu dal, ac fe allent gael eu herlyn.”

Ychwanegodd,
“Mae angen i’r bobl sy’n gyfrifol am gynnau’r tanau hyn ddeall fod y tanau yn difrodi cefn gwlad o amgylch eu cymunedau yn ddifrifol a’u bod yn peryglu bywydau am y gallai gymryd rhai munudau ychwanegol i ni ymateb i ddigwyddiadau yn nhrefi a phentrefi De Cymru os ydym ar ben mynydd yn ymladd tân coedwig.”

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Ernest, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru,

“Mae’r tanau hyn yn beryglus ac yn anodd rhagweld sut byddant yn lledu, gallant losgi allan o reolaeth yn gyflym. Mae Ymladdwyr Tân yn ymladd y tanau mewn amodau caled, gyda’r tanau’n lledu ar draws dir garw, sydd weithiau’n amhosib cael mynediad ato.”

Gofynnwn i bobl reportio unrhyw un y maent yn gweld yn cynnau tanau yn fwriadol, neu os ydynt yn amau bod rhywun yn cynnau tanau, drwy ffonio’r orsaf heddlu leol neu ffonio Crimestoppers ar 0800 555111 - lle mae pob galwad yn hollol gyfrinachol.”

                  Manylion Cyswllt  




Ffôn: 01443 232000
Ffacs:
01443 232165

E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk 


Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 30/3/2011
SWFRS