Mae’r digrifwr Rhod Gilbert wedi ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae swydd Rhod Gilbert fel digrifwr yn aml yn cael ei ddisgrifio fel y swydd anoddaf yn y byd, ond yn yr ail gyfres o ‘Rhod Gilbert's Work Experience’ mae’n cymharu ei swydd ef â swyddi ‘arferol’.
Yn y rhan olaf hon o’r gyfres bedair rhan sy’n cael ei dangos nos Lun 28 Mawrth ar BBC1 Wales am 10.35pm mae Rhod yn rhoi cynnig ar fod yn Ymladdwr Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Dywedodd Rhod Gilbert,
“Ni allwn i wneud eu gwaith hwy (Ymladdwyr Tân). Maen nhw’n cerdded i mewn i adeilad sydd ar dân heb syniad beth fydd yn eu hwynebu a heb wybod os oes pobl yn yr adeilad - allai ddim dychmygu sut mae’r adrenalin a’r arswyd yn teimlo”.
“Maen nhw’n delio â llawer mwy na thanau - mae rhan fawr o’u gwaith yn ymwneud â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, rhyddhau pobl o gerbydau ac achub pobl o afonydd. Mae ganddyn nhw ystod eang o sgiliau o ganlyniad i’r hyfforddiant dwys maen nhw’n derbyn, mae’n anhygoel gweld gymaint maen nhw wedi’i ddysgu”.
Ychwanegodd Rhod, “Cefais fy rhoi mewn cerbyd i ddangos sut byddent yn rhyddhau rhywun, roedd y gwaith tîm yn anhygoel! Roedd rhai yn gweithio gyda thorwyr, eraill gydag offer oedd yn plygu metal, eraill yn tynnu’r ffenestr allan, eraill yn dal fy ngwddf rhag ofn iddo symud ac roedd rhywun yn siarad gyda mi drwy gydol y profiad, yn fy nghysuro.”
“Roedd saith person yn gweithio fel un peiriant - roedd lefel eu sgiliau a’u gwybodaeth feddygol yn wych. Roedd hi’n sioc ar yr ochr orau i weld pa mor dda oeddent yn cyflawni eu dyletswyddau.
“Yn ogystal â'r gwaith hwn, maent yn gwneud llawer o waith atal gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion cynradd i addysgu plant am ddiogelwch tân a chynnal Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref a gosod larymau mwg yng nghartrefi Cymru.”
“Ni allwn i ystyried gwneud y swydd – mae’n swydd llawer rhy gorfforol heriol i mi ac mae angen bod yn llawer mwy dewr na fi!”
Dywedodd Anthony Ernest, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru:
“Roeddwn yn hynod o falch i’r digrifwr Rhod Gilbert ymuno â ni fel Ymladdwr Tân dan hyfforddiant. Rwyf wedi clywed gan yr Ymladdwyr Tân yng Ngorsaf Dân ac Achub Technegol Malpas ac yng Nghanolfan Hyfforddi Porth Caerdydd, lle treuliodd Rhod ei amser gyda GTADC, ac roedd pawb o’r farn ei fod yn recriwt o safon uchel.
“Gobeithio bydd y rhaglen hon yn rhoi golwg i’r cyhoedd ar broffesiwn heriol ac amrywiol Ymladd Tân yn y 21ain ganrif a’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud.”
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01443 232000 Ffacs: 01443 232165
E-bost: Swyddfa’r_Wasg@decymru-tan.gov.uk
Gallwch ein Hoffi ar Facebook, ein Dilyn ar Twitter ein Gwylio ar Flickr a YouTube.